Os ydych chi wastad wedi breuddwydio am fynd am dro mewn camperfan yna gallai dymuniad cynulleidfaoedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru gael ei wireddu y gwanwyn hwn.
Caiff camperfan VW melyn clasurol ei osod y tu allan i'r lleoliad ym Mae Caerdydd am gyfres o berfformiadau anarferol fel rhan o raglen tymor y gwanwyn Stiwdio Weston y Ganolfan.
Mae 'Running on Air' yn ddarn newydd gan Laura Mugridge sy'n gwahodd cynulleidfaoedd i ymuno â hi a chymryd rhan mewn perfformiad mewn camperfan o'r enw Joni. Unwaith y bydd cynulleidfaoedd y tu mewn i'r cerbyd, eir â hwy ar daith rithwir bersonol o Gernyw i Gaeredin a byddant yn rhannu eu profiadau o briodas, gwersylla a dathlu'r cyfle i fyw bywyd braf. [‘Running on Air’, 10 – 12 Mehefin]
Yn y cyfamser, y tu mewn i'r Ganolfan, mae sioeau newydd i blant, clasuron lle gellir ymuno â'r canu, cynyrchiadau Cymraeg a nifer o ddramâu pwerus a thywyll wedi'u trefnu ar gyfer gofod personol Weston. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae:
SIOEAU I BLANT
• Mae cwmni Bombastic yn dychwelyd gyda sioe newydd sy'n cyfuno theatr ddawns ac animeiddio i blant bach pump oed neu'n hŷn. Mae'r sioe wedi'i lleoli yn y gofod ac mae'n cynnwys bodau allfydol sy'n dawnsio, gofodwyr sy'n hofran yn yr awyr a gwaith animeiddio i fynd â chi y tu hwnt i'r sêr [‘Beyond the Stars’, Bombastic, 10 Ebrill]
• Mae ‘Ŵy ar Lwy’ yn gydweithrediad rhwng y Ganolfan a Galeri Caernarfon. Anelir y cynhyrchiad Cymraeg hwn at blant rhwng un a phedair mlwydd oed ac mae'n eu cyflwyno i'r tymhorau gwahanol. Gall plant chwarae pip-po mewn pyllau dŵr a dawnsio mewn parti ieir bach yr haf [‘Ŵy ar Lwy’, Cwmni Theatr Lyngo, 11 Mawrth]
DRAMÂU NEWYDD GRYMUS
• Mae 'Beachy Head' yn ystyried effaith penderfyniad un dyn i'w ladd ei hun yn y lleoliad adnabyddus hwn o safbwynt ei weddw, Amy. Ar yr un pryd, mae Matt a Joe yn canfod darlun aneglur o ddyn yn neidio oddi ar y clogwyni fel rhan o raglen ddogfen y maent yn ei gwneud. [‘Beachy Head’, Analogue, 7 Mawrth]
• Mae 'Keepers' yn adrodd stori wir dau geidwad goleudy sydd wedi'i leoli gerllaw arfordir Sir Benfro. Roedd perthynas y dynion bron yr un mor stormus â'r tywydd. Pan fydd trychineb yn taro un ohonynt, mae'r llall yn gwneud popeth o fewn ei allu i guddio'r gwir. Arweiniodd y digwyddiad trychinebus yng ngoleudy Smalls at newid pwysig yn y traddodiad morwrol ac ar ôl hynny roedd yn rhaid i oleudai gael eu staffio gan dri pherson yn hytrach na dau. [‘Keepers’, The Plasticine Men, 17 Mawrth]
• Mae 'Lockerbie' yn ddarn o theatr wleidyddol drawiadol yn seiliedig ar achos bomio awyren uwchben tref Lockerbie yn yr Alban, lle lladdwyd 270 o bobl. Mae'n dilyn tad galarus y caiff ei ffydd mewn cyfiawnder a'r system gyfreithiol ei chwalu o ganlyniad i'r ymosodiad gan derfysgwyr ar ehediad Pan Am 103 yn 1988 [‘Lockerbie’ Seabright Productions, 20 Mawrth]
• Mae'r Theatr Genedlaethol yn dychwelyd i'r Ganolfan gyda chyfieithiad y dramodydd Dafydd James o ‘Spring Awakening’. Yn seiliedig ar ddrama Frank Wedekind a gyhoeddwyd yn 1891, mae 'Deffro'r Gwanwyn' yn ystyried rhyw yn yr arddegau, hunanladdiad, anlladrwydd a pherthynas hoyw ['Deffro'r Gwanwyn', y Theatr Genedlaethol, 15-16 Mawrth]
YN GANEUON AC YN DDAWNS I GYD
• Mae ‘Singalong Glee Club’ yn ddathliad o rai o'r clasuron gorau lle y gellir ymuno â'r canu ynghyd â pherlau cerddorol. Darperir y geiriau a derbynnir ceisiadau. ['Singalong Glee Club', Seabright Productions, 1 Ebrill]
• 'Bay Divas: Encore!' Bydd y triawd jazz, sef Patti Flynn, Humie Webb a Jacky Webb yn dychwelyd i helpu'r Ganolfan i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. [Bay Divas: Encore!' 13 Mawrth]
• Mae'r cantorion pop Chesney Hawkes, Girls Aloud a George Michael ymhlith rhai o'r cantorion pop a gaiff eu dynwared fel rhan o sioe gerdd ddiweddaraf Frisky & Mannish. [‘Frisky & Mannish: The College Years’, 17 Ebrill]
• Mae ‘5 SOLDIERS’ yn ddarn dawns newydd yn seiliedig ar ymchwil helaeth i'r galwadau corfforol ar fywydau milwyr - o'r gwaith caled yn y barics i'r pryder a'r cyffro sy'n gysylltiedig â gweithrediadau a'r anafiadau a geir yn sgîl rhyfela. [‘5 SOLDIERS’, Cwmni Dawns Rosie Kay, 23 Mawrth.]
Dywedodd Mark Taylor, Prif Weithredwr Canolfan Mileniwm Cymru: 'Mae rhaglen y tymor hwn yn stiwdio bersonol Weston yn darparu dramâu pwerus sy'n ysgogi'r meddwl, a sioeau chwareus a hudol i blant. Yn dilyn llwyddiant 'Wondermart' y llynedd, darn o theatr a gynhaliwyd mewn archfarchnad, mae'r Ganolfan hefyd yn ymestyn ei gonfensiwn o gynnal dramâu mewn lleoedd anarferol gyda ,Running on Air, sy'n cael ei llwyfannu mewn camperfan melyn llachar. Gobeithiaf y bydd cynulleidfaoedd yn y Ganolfan yn parhau i fwynhau'r her sy'n gysylltiedig â theatr ryngweithiol, ac yn profi'r rôl ddeublyg o fod yn gyfranogwyr yn ogystal â gwylwyr. |