Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

SPIN: Rhaglen ddwbl newydd gan y coreograffydd arobryn Sandra Harnisch-Lacey     

SPIN: Rhaglen ddwbl newydd gan y coreograffydd arobryn Sandra Harnisch-Lacey Yn dilyn eu taith EXIT&OUT lwyddiannus yn y DU, mae Theatr Dawns Harnisch-Lacey (HLDT) yn cyflwyno SPIN, rhaglen ddwbl newydd sbon.

Mae SPIN yn cymysgu dulliau dawns cyfoes â dulliau dawns trefol parkour a breakin’ mewn perfformiad ffres a dynamig.

Mae SPIN yn mynd â chi ar wibdaith llawn gobaith, wedi’i hysbrydoli gan straeon personol a gwneud yr amhosibl yn bosibl. Mae pedwar o ddawnswyr yn trin a thrafod set symudol gan droi rhwystrau’n gyfleoedd, i guriadau afaelgar a sgôr wreiddiol gan DJ Winchester a Luke Harney. Mae’r symudiad a’r gerddoriaeth i’r ddau ddarn wedi’u creu mewn partneriaeth agos, gan ysbrydoli a dylanwadu ar ei gilydd o hyd.

Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae HLDT yn enwog am integreiddio a chyfuno ar draws genres y ddawns, cerddoriaeth, theatr a ffilm. Yn y gorffennol mae’r cwmni wedi teithio ar draws Cymru, Ewrop a Chanada.


Taith 2011
Mawrth 3/4/5 | 7.45pm
Glan yr Afon, Casnewydd (Perfformiad Cyntaf)
01633 656757_www.newport.gov.uk/riverfront

Mawrth 8 | 7.30pm
Canolfan Gelfyddydau Muni, Pontypridd
Box Office: 01443 485934_www.muni.rct-arts.org_

Mawrth 10 | 7.30pm
Stiwt y Glowyr, Y Coed Duon
01495 227206 www.blackwoodminersinstitute.com

Mawrth 11 | 7.30pm
Y Metropôl, Abertyleri
01495 322510 www.the-met.co.uk

Mawrth 15 | 7.30pm
Theatr y Fwrdeistref, Y Fenni
01873 850 805 www.boroughtheatreabergavenny.co.uk

Mawrth 16 | 7.30pm
Theatr Mwldan, Aberteifi
01239 621200 www.mwldan.co.uk

Mawrth 18 | 7.30pm
Galeri, Caernarfon
01286 685 222 www.galericaernarfon.com

Mawrth 23 | 7.30pm
Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, Pontardawe
01792 863722 www.pontardaweartscentre.com


 
web site
:

e-mail:
Tuesday, February 15, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk