|
CANOLFAN MILENIWM CYMRU YN CYHOEDDI PARTNERIAETH STRATEGOL Â CAPE TOWN OPERA
|
Heddiw, lansiwyd partneriaeth strategol dair blynedd rhwng cwmni opera egnïol a chanolfan gelfyddydau nodedig, sy'n anelu at atgyfnerthu cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a De Affrica.
Mae'r cytundeb rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a chwmni Cape Town Opera yn cadarnhau eu perthynas barhaus ac yn atgyfnerthu cysylltiad y Ganolfan ag unig gwmni opera sefydlog De Affrica. Cape Town Opera yw sefydliad celfyddydau perfformio mwyaf De Affrica. Ymddangosodd y cwmni yn y DU am y tro cyntaf yn y Ganolfan gyda pherfformiad o 'Porgy and Bess' fel rhan o ddathliadau 5ed pen-blwydd y Ganolfan yn 2009.
Drwy gydweithio, nod y ddau sefydliad yw darparu llwyfan ar gyfer cyfnewidfeydd diwylliannol. Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd i gydweithio â chwmnïau celfyddydau eraill a'r potensial i alluogi cynulleidfaoedd yng Nghymru, y DU a De Affrica i weld mwy o berfformiadau opera.
PERFFORMIAD CYNTAF A PHROSIECT ADDYSG
Prif elfennau'r cytundeb yw perfformiad cyntaf o opera newydd a phrosiect addysg gydag ysgolion ym Mae Caerdydd.
Mae 'Mandela Trilogy' yn fersiwn newydd o opera wreiddiol am fywyd Nelson Mandela a ddatblygwyd gan Michael Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Cape Town Opera, ac a gyfansoddwyd gan Allan Stephenson, Mike Campell a Peter Louis van Dijk. Agorodd ym mis Mehefin 2010 fel darn diwylliannol i gyd-fynd â Chwpan y Byd FIFA a oedd yn cael ei gynnal yn Ne Affrica. Bydd Cape Town Opera yn perfformio'r darn am y tro cyntaf yn y DU yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Mehefin 2012.
'Mandela Trilogy' yw gwaith teithiol diweddaraf y cwmni sy'n amlygu sain unigryw a grymus y llais Affricanaidd. Mae'r darn yn dathlu tair rhan o fywyd Mandela, gyda thri pherfformiwr yn portreadu cyn-arlywydd De Affrica gan ddefnyddio gwahanol arddulliau o gerddoriaeth.
Mae prosiect addysg sy'n cynnwys artist o Cape Town ac un o Gymru yn rhan o'r gwaith cymunedol a fydd yn deillio o'r bartneriaeth. Bydd yr artistiaid yn gweithio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol yn Ne Cymru i ymchwilio i'r thema o berthyn a sut y gall gwahaniaethau diwylliannol gyfoethogi cymunedau. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys Opera Cenedlaethol Cymru, un o sefydliadau preswyl y Ganolfan. Penllanw'r prosiect yma fydd perfformiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru fel rhan o ddathliadau Mis Hanes Pobl Dduon y Ganolfan ym mis Hydref 2011.
Mae cynlluniau cyfnewid staff hefyd ar y gweill rhwng y Ganolfan a Cape Town Opera er mwyn rhannu arfer da a datblygu cydberthnasau gwaith.
TRYDEDD BARTNERIAETH STRATEGOL CANOLFAN MILENIWM CYMRU
Gweledigaeth Canolfan Mileniwm Cymru yw sefydlu cyfres o bartneriaethau strategol â sefydliadau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. Mae ganddi eisoes gytundeb pum mlynedd gyda Galeri, Caernarfon a Mariinsky Opera. Mae'r partneriaethau'n golygu y gall Canolfan Mileniwm Cymru barhau gyda'i nod o arddangos Cymru i'r byd a dod â'r gorau o'r byd i Gymru.
Cynigiwyd y syniad o sefydlu cysylltiadau ffurfiol rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Cape Town Opera yn wreiddiol mewn ymateb i berthynas hir y Ganolfan â De Affrica a Cape Town Opera, sy'n dyddio'n ôl i agoriad y Ganolfan yn 2004. Mae perthynas y Ganolfan â Cape Town Opera yn deillio o gysylltiad y Ganolfan â'i noddwr sefydlu, Syr Donald Gordon a Sefydliad Donald Gordon yn Ne Affrica.
Dywedodd Mark Taylor, Prif Weithredwr, Canolfan Mileniwm Cymru: 'Mae hon yn garreg filltir bwysig yn hanes Canolfan Mileniwm Cymru ac yn natblygiad cysylltiadau diwylliannol rhwng Cymru a De Affrica. Mae'r bartneriaeth yma yn ffrwyth uchelgais, penderfyniad a chyflawniadau artistig gan gydweithwyr yn y Ganolfan a Cape Town Opera ac rwy'n hyderus y bydd y berthynas newydd yn cynnig cyfleoedd diwylliannol i'r sefydliadau a'n cynulleidfaoedd.'
Dywedodd Michael Williams, Rheolwr Gyfarwyddwr Cape Town Opera: 'Mae'n bleser gan Cape Town Opera fod yn rhan o bartneriaeth dair blynedd gyda Chanolfan Mileniwm Cymru, a chredwn y bydd y ddau gwmni yn tyfu'n sylweddol o ganlyniad. Mae Cape Town Opera yn hollol ymrwymedig i sicrhau bod y bartneriaeth yma yn llwyddiannus, yn rhoi boddhad ac yn gyffrous ac y bydd o fudd i'r ddau sefydliad a'u cynulleidfaoedd.'
|
web site: |
e-mail: |
Wednesday, February 23, 2011 |
|
|
|
Other related news stories on the Theatre in Wales web site :
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999