|
Sherman Cymru’n penodi Cyfarwyddwr Cyswllt newydd
|
Mae Sherman Cymru’n falch o gyhoeddi fod Mared Swain wedi ei phenodi i ymgymryd â swydd y Cyfarwyddwr Cyswllt. Bydd Mared yn arwain y gwaith datblygu a chomisiynu yn y Gymraeg i Sherman Cymru.
Ers graddio o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yn 2003, mae Mared wedi gweithio’n eang fel actores yn y theatr, ar y teledu ac ar y radio. Mae wedi ysgrifennu dwy ffilm fer, bu’n rhan o dîm ysgrifennu Dominos i Theatr Genedlaethol Cymru, ac mae wedi bod yn aelod o dîm storïo ar y gyfres Caerdydd gyda Fiction Factory i S4C.
Ers 2007 mae wedi bod yn cyfarwyddo ar gyfer y theatr, ac wedi bod yn un o gyd-gynhyrchwyr Cwmni Theatr Dirty Protest, cwmni ysgrifennu newydd o Gaerdydd sy’n llwyfannu dramâu byrion. Mae Mared wedi cyfarwyddo dramâu newydd sydd wedi eu perfformio mewn amrywiol leoliadau gan gynnwys y Roundhouse yn Camden, G_yl Latitude, Canolfan Mileniwm Cymru, Sherman Cymru a’r Galeri yng Nghaernarfon, yn ogystal ag mewn nifer o leoliadau ymylol o amgylch Caerdydd. Ers ei sefydlu mae Dirty Protest wedi cynhyrchu mwy na 80 o ddramâu byrion newydd gan fwy na 70 o ysgrifenwyr, gan gynnwys gwaith gan Chloe Moss, Lucy Kirkwood, a Rebecca Lenkiewicz, Jack Thorne, Ed Hime, Gary Owen, Brad Birch, Meic Povey a Dafydd James.
Yn 2010 dewiswyd Mared fel un o Gyfarwyddwyr Newydd National Theatre Wales, gan weithio ar y cynhyrchiad llwyddiannus The Persians.
Wrth sôn am ei swydd newydd, meddai Mared:
"Dwi'n falch iawn fy mod yn ymuno a thîm Sherman Cymru yn ystod y cyfnod hynod gyffroes yma o fewn theatr yng Nghymru."
Dywedodd Chris Ricketts, Cyfarwyddwr Artistig Sherman Cymru:
“Mared is joining us at a pivotal point in the company’s development as we begin to get ready to move back into Sherman Cymru and prepare our future programme. Mared’s strong commitment to new writing and new work complements really well the importance we give to that work and I know she will be a real asset to our future success.”
Bydd Mared yn cychwyn ar ei swydd newydd yn Sherman Cymru ddiwedd fis Medi.
|
Sherman Cymri
web site: |
e-mail: |
Friday, July 8, 2011 |
|
|
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999