Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cwmni bach Cymreig yn Wyl yr Ymylon Caeredin ...     

Cwmni bach Cymreig yn Wyl yr Ymylon Caeredin
... Cwmni Theatr 3D un cyflwyno Richard Parker gan Owen Thomas


Y cyfuniad perffaith i ddod â dwr i'ch dannedd - Coc-têl sardines, dwr y môr a gobeithion sy'n raddol foddi... ! Gan y dramodydd Cymreig Owen Thomas.

Comedi dywyll yw hon am hynt a helynt dau ddiethryn sy'n cwrdd ar fwrdd llong, mae un yn dilyn ffawd a chyd-ddigwyddiad a'r llall yn ffafrio rhesymeg a rheswm. Herio credoau'r ddau a wna'r cyfarfyddiad yma, ynghyd â newid trywydd eu taith. Y cellwair a'r cyd-chwarae ffraeth rhwng y ddau gymeriad sy'n sicrhau'r cydbwysedd rhwng y comedi a'r arswyd yn y ddrama hon - Richard Parker.

Sefydlwyd Cwmni Theatr 3D yn ystod Haf 2003 yn Aberystwyth, gan dair ffrind a oedd yn rhannu'r un diddordeb a brwdfrydedd am un peth - y theatr. Fel ffrindiau - a nawr partneriaid busnes mae Nia Wyn Jones, Hannah Wynn Jones a Catrin Wyn Jones (nid ydynt yn perthyn) wedi gweld eu menter yn mynd o nerth i nerth.

Wrth i'r cwmni dyfu, cynyddu hefyd mae dycnwch ac ymroddiad y rhai sydd wrth wraidd y fenter. Cwmni a chriw sy'n parhau i ddenu talent newydd i weithio ochr yn ochr gyda nhw. Y cyd-weithrediad yma sy'n ymgorffori ethos y cwmni - i gynnig platfform i berfformwyr a dramodwyr newydd lle cânt ddangos eu doniau a'u gweledigaeth.

Perfformwyd gan Gareth John Bale ac Alastair Sill.


Lleoliad C soco, lleoliad 348, Edinburgh Festival Fringe
Dyddiadau 21-29 Awst
Amser 13:15 (1h00)

Pris tocynnau £7.50-£9.50 / consesiynau £6.50-£8.50

Swyddfa docynnau C venues 0845 260 1234 / www.CtheFestival.com
Swyddfa docynnau y Fringe 0131 226 0000 / www.edfringe.com

Am fwy o wybodaeth cysylltwch a:
Hannah Wynn Jones, Cwmni Theatr 3D ar 07958 475420 / info@cwmnitheatr3d.co.uk
neu Swyddfa'r Wasg C venues ar 0845 260 1060 / press@cvenues.com

3D Theatre Company  
web site
:
Hannah Wynn Jones
e-mail: info@cwmnitheatr3d.co.uk
Wednesday, July 27, 2011back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk