Fel rhan o’i fwriad i greu cyfleoedd i artistiaid ar ei liwt eu hunain, mae Cwmni Theatr Arad Goch wedi gwahodd tri artist sy’n gweithio mewn cyfryngau gwahanol i fod yn artistiaid preswyl yng Nghanolfan y cwmni am y flwyddyn nesaf.
‘Fel cwmni, rydyn ni’n ffodus iawn o’r adnoddau gwych sydd gennym yn y Ganolfan ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod artistiaid eraill yn elwa o’r adnoddau hyn. Rydyn ni hefyd yn falch iawn o gael rhannu ein blynyddoedd o brofiad gydag artistiaid ifanc, a bydd elfen o fentora ynghlwm wrth y preswyliadau yma. Yn anad dim rydyn ni’n falch iawn bod tri artist ifanc yn dod a syniadau a bwrlwm newydd i’r Ganolfan, mae’r berthynas yn cyfrannu at ein bwriad hir dymor o greu cymuned creadigol aml gyfrwng a chymraeg’ Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch.
Wedi agor y drysau coch trawiadol nol yn 2008, does dim dwywaith bod y Ganolfan wedi ateb ei bwrpas, sef creu pencadlys newydd i Gwmni Theatr Arad Goch, cwmni sy’n arbeingo mewn cynhyrchu gwaith theatr a phrosiectau cyfranogol i blant a phobl ifanc, yn ogystal a bod yn leoliad aml bwrpas at ddefnydd y gymuned.
‘Ar ol tair blynedd mae Canolfan Arad Goch wedi ennill ei phlwy fel adnodd pwysig i dre Aberystwyth. Mae’n fan hwylus i’r clybiau drama blAGur ac AGwedd, Adran yr Urdd, stafelleoedd ymarfer i’r Brifysgol, llwyfan i gynyrchiadau myfyrwyr, cyfarfodydd gwahanol fudiadau ac yn oriel gelf. Ond wrth gwrs mae hefyd yn gartref i gwmni sy’n gwasanaethu Cymru gyfan’
Arwel Rocet Jones, Cadeirydd Bwrdd Rheoli Arad Goch.
Mae creadigrwydd a pherfformio yn rhan annatod o’r adeilad ers y cychwyn cyntaf, mans ac ysgoldy’r Eglwys oedd yr adeilad gwreiddiol, ac yma cyfansoddodd Joseff Parry ei emyn – dôn ‘Aberystwyth! Mae’r Ganolfan newydd yn gyfuniad o’r hen a’r modern gyda chyfleusterau heb ei ail. Mae’r hen ysgoldy bellach yn theatr fodern sy’n leoliad gwych i genhedlaeth newydd o gerddorion ac artistiaid i ymarfer a pherfformio’i gwaith. Wrth i’r artistiad preswyl gychwyn ar eu siwrne creadigol nhw yn y Ganolfan, mae’n sicir o greu cyfleoedd artistig newydd i Arad Goch a’r gymuned yma yn Aberystwyth.
Arlunydd yw Esther Eckley, ac wedi ei magu yn Y Bala a Chaerdydd roedd diddordeb mawr ganddi mewn peintio yn yr ysgol, ond bu’r brwshys paent yn llonnydd iawn tra roedd Esther yn astudio gradd mewn PR ym Mhrifysgol Bornemouth.
Wedi dychwelyd nol i Gymru i barhau i weithio yn y byd PR, bu’n ffodus i dreulio cyfnod yn Adran Farchnata Canolfan y Mileniwm lle ail daniodd ei dawn creadigol a’i diddordeb mewn arlunio tirluniau.
Yn 2010 symudodd Esther a’r teulu i Aberaeron, mae tirlun Ceredigion wedi bod yn ysbrydoliaeth mawr iddi, ond wedi treulio deunaw mis yn gweithio yn ei stiwidio unig roedd hi’n awyddus iawn i ganfod gofod cymdeithasol i ddatblygu ei gwaith.
‘Rydw i’n teimlo’n lwcus iawn bod Arad Goch wedi cynnig i mi ddefynddio’r Galeri ar y llawr uchaf i beintio a datblygu fy ngwaith. Mae’n ofod ffantastig gyda ffenest liw o mlaen i a digonnedd o olau naturiol yn llifo mewn trwy’r ffenestri yn y to. Mae’n gret i gael rhannu syniadau dros baned a chlywed pobl yn ymarfer a pherfformio o’m hamgylch. Mae yna ‘buzz’ creadigol a chyffrous yn perthyn i’r Ganolfan ac mae’n freuddwyd i gael bod yma!‘
Yn rhannu’r Galeri gyda Esther mae Siriol Joyner, coreograffydd ifanc sy’n hannu o Gomins Coch. Cychwynnodd ei diddordeb mewn celf a dawns yma yn Aberystwyth ac wedi mynychu dosbarthiadau dawns yng Nghanolfan y Celfyddydau, cychwynnodd ddilyn gwersi ballet wythnosol gyda’r Ballet Brenhinol ym Mryste pan roedd hi’n 9 oed, cyn dod yn aelod cyswllt o gwmni Diversions yn ystod ei harddegau.
Doedd dawns ar ei ben ei hun erioed yn ddigon i Siriol, roedd hi’n hoff o rannu ei hamser rhwng dawnsio ac arlunio. Wedi astudio gradd mewn Celfyddyd Gain yn Rhydychen bu’n byw am gyfnod ym Merlin, a tra’n gweithio fel cydlynydd arddangosfeydd yn y ‘Galaerie Giti Nourbakhsch’, bu’n teithio i Lundain ac Efrog Newydd i ffeiriau celf, gan ddysgu llawer am yr ochr fusnes, byd sy’n rhan annatod o fywyd pob artist.
Yn ystod yr Haf eleni derbyniodd ysgoloriaeth ‘dance WEB’ a gwahoddiad i fynd i Vienna i gydweithio gyda 64 o artistiaid rhyngwladol fel rhan o’r ŵyl ddawns cenedlaethol, ‘Im PulsTanz’. Derbyniodd yr ysgoloriaeth o ganlyniad i gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Sir Ceredigion. Mae Siriol wedi bod yn ffodus iawn i dderbyn cefnogaeth gan nifer o ffynhonnellau o Gymru yn ystod ei gyrfa, ac o ganlyniad penderfynnodd ddychwelyd i Geredigion ym mis Medi er mwyn datblygu a ffocysu ar ei gwaith hi fel coreograffydd ac artsit.
‘Wedi glanio nol yng Nghymru ar y pumed o Fedi penderfynnias ddod yn syth i Ganolfan Arad Goch i drafod y posibilrwydd o ddefnyddio’r Ganolfan i ymchwilio a datblygu fy nghrefft, ac ro’n i wrth fy modd bod Arad Goch wedi cytuno i adael imi weithio yma. Mae’n fraint i gael gofod mor fawr ar ol rhannu stiwdio gyda degau o ddawnswyr a pherfformwyr eraill! Mae’n ofod gwych i ymchwilio mewn tawelch a ffocysu fy meddwl. Oherwydd bod cymaint o bobl creadigol dan yr un to mae’n agor drysau i gydweithio gydag artistiaid eraill, mae’n le cyffrous i fod ynddo’
Yn wahanol i Esther a Siriol bydd Simon Lovatt a QR Collective yn defnyddio’r Ganolfan i gynnal perfformiadau cerddorol ac arddangosfeydd achlysurol. Cerddor o Lannon yw Simon ac wedi ei fagu ar aelwyd gerddorol roedd cerddoriaeth yn ei waed o’r cychwyn cyntaf.
Yn ystod ei arddegau cychwynnodd chwarae’r guitar a’r piano. Yn ddiweddarch bu’n gweithio yn Andy’s Records ble cychwynnodd ei ddiddordeb mewn trefnu gigs ar y cyd, yn ogystal â pherfformio o amgylch yr ardal gyda’r band ‘FENKS’.
Wedi trefnu noson y ‘Living Room’ yn y Cwps, roedd Simon yn ymwybodol o’r talentau cerddorol a chelfyddydol sydd yn bodoli yma yn Aberystwyth, ac roedd yn freuddwyd ganddo i ddatblygu cymuned artistig i ganiatau i berfforwmyr, arlunwyr a ffotograffwyr lleol i gydweithio a datblygu syniadau. Gwireddwyd ei freuddwyd yn 2009 wedi iddo sefydlu QR Collective, neu’r Quiet Revolution, cymuned sy’n frith o artistiaid o bob cwr o Geredigion, pob un wedi eu ysbrydoli gan dirlun ac awyrgylch yr ardal, gan gynnwys band diweddaraf Simon, Son Capson.
Yn ogystal a diddordeb mewn perfformio mae ganddo hefyd ddiddordeb mawr mewn gwaith technegol a chydweithio gyda phobl ifanc. Bu’n gweithio fel technegydd sain yn Llundain, gyda’r BBC a Boomerang ac yng Nghlwb Ifor Bach Caerdydd cyn cael swydd fel cydlynnydd gweithdai cynhyrchu cerddoriaeth yn Theatr Felinfach, fel rhan o Brosiect Cyrraedd y Nod Ceredigion yn 2010.
Gyda’i ddiddordeb mewn theatr, gweithio gyda phobl ifanc a pherfformio, roedd Canolfan Arad Goch yn leoliad delfrydol i Simon a chymuned QR i ddatblygu ac arddangos eu gwaith. Maent eisioes wedi cynnal un digwyddiad llwyddiannus iawn yng Nghanolfan Arad Goch ar yr 8fed o Hydref ac maent eisioes yn edrych ymlaen at y nesaf!
Mae Arad Goch yn rhagweld cyfnod cyffrous o gydweithio a datblygu prosiectau gyda’r artistiaid preswyl. Mae Simon eisioes yn cydweithio gyda Arad Goch ar ein taith theatr cynradd a’r sioe ‘Ar Eich Marciau’ a pwy a wyr beth fydd y prosiect nesaf? Un peth sy’n sicir yw bod y Ganolfan a’r cwmni yn llwyddo i hybu cyfleoedd creadigol aml gyfrwng yng ngheredigion.
Mae Arad Goch yn ddiolchgar iawn am gymorth gwerthfawr |