Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Actorion yn cydweithio â myfyrwyr     

Actorion yn cydweithio â myfyrwyr Dros yr wythnosau nesaf bydd actorion profiadol yn gweithio ar y cyd â myfyrwyr cyfrwng Cymraeg Ysgol y Celfyddydau Perfformio - Prifysgol y Drindod Dewi Sant - ar gynhyrchiad teithiol o’r ddrama Torri Gair, sef cyfieithiad Elan Closs Stephens o’r ddrama Translations gan Brian Friel.

Cefndir y stori.
Mae’n haf poeth ym 1833 ym mhentref bychan Baile Beag yn Dhun na nGall (Donegal) yng Ngogledd Iwerddon, a thu fewn i furiau’r sgubor llwm a ddefnyddir i gynnal gwersi’r ysgol bôn clawdd (neu’r hedge school) anffurfiol, fe’n cyflwynir i griw o gymeriadau’r pentref gwerinol Gwyddelig sy’n ymgasglu yno yn gyson gyda’r nos i dderbyn eu haddysg dan arweiniad Hugh, yr hen sgwlyn dysgedig a lliwgar. Fodd bynnag, wrth i filwyr catrawd Royal Engineers y fyddin Brydeinig gyrraedd yr ardal dan orchymyn brenhinol i lunio mapiau swyddogol o’r diriogaeth ar ran y Brenin, mae nhw'n derbyn croeso cymysg gan gymuned werinol y 'drefedigaeth', gan arwain at ganlyniadau dirdynnol.

Hanes y ddrama
Ysgrifennwyd y ddrama Translations yn wreiddiol ym 1980, a hynny yn fwriadol yn yr iaith Saesneg yn ôl y dramodydd Brian Friel, ac yn sicr mae’r ddrama yn adleisio’r gwrthdaro gwleidyddol a chymdeithasol a welwyd ac a brofwyd yng Ngogledd Iwerddon yn y cyfnod hwnnw. Fodd bynnag, mae’n ddrama ag iddi themâu oesol a phellgyrhaeddol hefyd, sy'n ymwneud â iaith, cyfathrebu a hunaniaeth, ac yn amlygu cwestiynau ynghylch imperialaeth ddiwylliannol a breuder y cof. Mae dyfeisgarwch theatraidd y dramodydd yn cael ei amlygu wrth i ni glywed un iaith ar y llwyfan ond sy’n adlewyrchu sefyllfa lle nad yw’r rhan fwyaf o’r cymeriadau ond yn gallu cyfathrebu yn eu iaith eu hunain (h.y. unai yn y Wyddeleg neu’r Saesneg). Dyma un o’r rhesymau – ynghyd â’r themâu cysylltiedig yn ymwneud â chyfathrebu, diffyg cyfathrebu ac amharodrwydd i gyfathrebu – pam yr ystyrir y ddrama bellach i fod yn un o’r clasuron Gwyddelig modern, ac mae apêl y ddrama a’i pherthnasedd pellgyrhaeddol heb os yn parhau hefyd.

Mae Translations wedi bod yn destun gosod i ddisgyblion sawl ysgol uwchradd mewn blynyddoedd diweddar. A gwelodd Gwasg Carreg Gwalch yr angen i gyhoeddi ailargraffiad o’r addasiad Cymraeg ohoni, gan ymddangos yn y siopau yn ddiweddar iawn. Bydd eleni hefyd yn nodi deng mlynedd ar hugain ers i’r cynhyrchiad cyntaf o gyfieithiad Elan Closs Stephens gael ei llwyfannu gyntaf gan Gwmni Theatr Cymru. O’r diwedd felly, dyma gyfle arall i weld llwyfaniad o ddrama rymus Brian Friel, gyda pherfformiadau ohoni yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Y Cynhyrchiad
Yn ymuno â’r cast o fyfyrwyr 3ydd blwyddyn Ysgol y Celfyddydau Perfformio ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, fydd yr actorion profiadol Huw Emlyn a Ioan Hefin – y ddau yn wynebau cyfarwydd i gynulleidfaoedd ar lwyfannau theatr ac ar y sgrin. Mae’r penderfyniad o gyfuno actorion proffesiynol profiadol â’r myfyrwyr yn un cwbl fwriadol yn ôl y darlithydd a’r cyfarwyddwr Iestyn Llwyd. “Fe ddylai bod modd i’r myfyrwyr elwa’n fawr o gydweithio ar y cyd gydag actorion mor brofiadol ar y cynhyrchiad: yn gallu dilyn cynghorion a rhannu arferion proffesiynol da, drwy anelu at gyrraedd safonau proffesiynol gyda’u gwaith, a hefyd i godi eu disgwyliadau ohonynt eu hunain o safbwynt eu mewnbwn a’u hymroddiad i’w prosesau ymarfer a’u perfformiadau terfynol.”

Yn ôl yr actor Ioan Hefin: “Dwi'n gredwr cryf mewn dysgu drwy brofiad, ac yn cymeradwyo unrhyw Ysgol, Goleg neu Brifysgol sy'n mentro tu hwnt i'w ffiniau 'diogel'. Mae'r byd actio yn d_r o gyfleoedd annisgwyl, a dwi'n gobeithio bydd y myfyrwyr yn elwa wrth rannu'r ystafell ymarfer. Yn bersonol, fel actor ac fel person, mae'r broses o ddysgu yn parhau gydol oes.”

Yn ogystal â phontio’r gagendor rhwng gwaith Prifysgol a’r gweithle proffesiynol, bydd yn her ychwanegol hefyd i’r cast i berfformio yn y ddwy iaith, gan fod bwriad i gyflwyno perfformiadau o’r ddrama yn y Saesneg gwreiddiol yn ogystal â’r perfformiadau Cymraeg. Hwyrach y bydd hefyd yn ddiddorol i’r cast i fesur ymateb y cynulleidfaoedd gwahanol i’r ddrama yn y ddwy iaith.

Mae Iestyn Llwyd yn parhau: “O fod yn ymwybodol o’r sialensiau anodd sy’n wynebu’r Celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yn gyffredinol ar hyn o bryd, bwriad yr holl gyrsiau cyfrwng Cymraeg a redir o fewn yr Ysgol yw i feithrin a pharatoi graddedigion sy’n meddu ar ystod eang o sgiliau creadigol i wynebu’r heriau o ganfod neu greu cyfleon gwaith - boed hynny o fewn y diwydiannau creadigol a chyfryngol neu yn wir y tu hwnt. Fydden i’n gobeithio bod cyflwyno’r myfyrwyr i’r her hwn o berfformio yn y ddwy iaith yn fodd iddyn nhw - yn ogystal ag eraill – i sylweddoli a gwerthfawrogi eu potensial a’u cyflogadwyedd fel perfformwyr proffesiynol dwyieithog.”

Manylion y daith:

Theatr Halliwell, Campws y Brifysgol, Caerfyrddin
Sul 5ed Chwefror am 7:30pm (*S)
Llun, 6ed Chwefror am 7:30pm (C)
+ Matinee i Ysgolion (i’w gadarnhau) (C)

Llinell archebu tocynnau: 0845 226 3510


Theatr Soar, Merthyr Tydfil
Iau 9fed Chwefror am 7:30pm (C)
+ Matinee i Ysgolion (i’w gadarnhau), (C)

Llinell archebu tocynnau 01685 722176


Canolfan Gelfyddydau Neuadd Llanofer, Caerdydd
Gwener Chwefror 10fed am 7:30pm (C)
Sadwrn Chwefror 11eg am 3:00pm (C),
7:30pm (*S)

Llinell archebu tocynnau 029 2063 1144

(C) = perfformiad Cymraeg
(S) = perfformiad Saesneg


Am fanylion pellach cysylltwch â chyfarwyddwr a chynhyrchydd y cynhyrchiad Iestyn Llwyd yn Ysgol y Celfyddydau Perfformio (YDDS):
i.llwyd@ydds.ac.uk
01267 676640
 
web site
:
Iestyn Llwyd
e-mail: i.llwyd@ydds.ac.uk
Thursday, January 19, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk