|
Cyfarwyddwr Artistig Theatr Bara Caws
|
Hoffai Theatr Bara Caws ddatgan mai Betsan Llwyd sydd wedi ei phenodi yn Gyfarwyddwr Artistig newydd i’r Cwmni.
“ ‘Rwyf wedi edmygu a dilyn Bara Caws ers ei sefydlu gynta’ ‘rioed, ac yn edrych ymlaen at adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes yn eu lle. ‘Rwyf hefyd yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gyfnod cyffrous o gyd-weithio gyda’r tîm, gan gyfrannu at ddatblygiad y Cwmni yn ystod y blynyddoedd nesaf.” Betsan Llwyd
Mae Betsan yn wyneb hynod gyfarwydd i lwyfannau’r theatrau ac i’r sgrin fach. Mae hi wedi ymddangos mewn sawl rhaglen megis, ‘Sombreros’, ‘Pen Talar’ a ‘Talcen Caled’. Enillodd ddwy wobr BAFTA Cymru yr Actores Orau am ei pherfformiadau yn y ‘T_r’ a’r ‘Wisg Sidan’. Mae hi’n hen law ar gyfarwyddo ac wedi cyfarwyddo sawl drama i Bara Caws, ‘Tri Rhan o Dair’, ‘Halibal_’ ac ‘Un Nos Ola Leuad’.
“ Tra’n diolch i Tony Llewelyn am ei gyfraniad amhrisiadwy i’r Cwmni dros y naw mlynedd diwethaf, rwyf ar ran y Bwrdd Cyfarwyddwyr â’r Tîm Rheoli yn croesawu penodiad cyffrous Betsan. Rydym yn edrych ymlaen yn arw am gael cyd weithio â hi, byddwn yn sicr yn elwa o’i phrofiadau helaeth”
John Gwynedd Jones
Bydd cyfnod Betsan fel Cyfarwyddwr Artistig yn dechrau o’r 1af o Ebrill 2012.
|
web site: |
e-mail: |
Monday, February 6, 2012 |
|
|
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999