Mae Theatr na n’Ôg yn cychwyn tymor newydd o waith gyda thaith sydd wedi gwerthu allan! Yn y flwyddyn y bydd Theatr na n’Ôg yn dathlu 30 mlynedd o theatr gafaelgar, edrychwn ymlaen at lwyddiannau lu gyda sioeau a fydd yn diddanu cynulleidfaoedd dros Gymru gyfan yn ogystal a chyflwyno’r gwaith mewn theatrau a lleoliadau newydd dros Brydain. Gyda’i enw da am ddiddanu cynulleidafaoedd ifanc, mae’r gwaith yn parhau eleni I Theatr na n’Ôg wrth iddynt ddechrau’r tymoregyda’r sioe chwaraeus Chwedlau Aesop sydd wedi ei addasu’n gywrain gan y dalentog Keiron Self. Mi fydd Chwedlau Aesop yn teithio i leoliadau dros Gymru trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg cyn symud ymlaen i theatrau dros Brydain cyfan yn Colchester, Ipswich, Llundain, Birmingham a Leeds ac am y tro cyntaf erioed, mae’r cwmni wrth eu boddau i fod yn perfformio yn Theatr Y Gardyne yn Dundee. Yn ôl Phyl Harries, sy’n chwarae’r llygoden fach annwyl yn y chwedlau enwog, ‘Mae’n ofnadw o gyffrous I fynd â’r gwaith I gynulleodfaoedd dros y wlad i gyd, yn enwedig Yr Alban achos bod gyda nhw enw ardddechog am greu gwaith i bobl ifanc. Ry’n ni’n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â Dundee ar ddiwedd mis Mawrth’. Yn dilyn Chwedlau Aesop, mi fydd y cwmni yn symud ymlaen at eu sioe newydd sbon Gwobr Y Gwenyn Gweithgar. O ganlyniad I werthu allan bron yn syth, mae’r daith 8 wythnos arferol nawr wedi ei ymestyn i ddeg. Mae’r sioe a ysgrifennwyd gan Kath Chandler (awdur sydd wedi ennill gwobrwyon am ei gwaith ac a ysgrifennodd y sioe gerdd ‘The Bankrupt Bride’ i’r cwmni yn 2009) yn olrhain hanes a strach y wenynen fach diog sydd â’r cyfrifoldeb o achub nythfa gyfan! Mae ‘Gwobr y Gwenyn Gweithgar’ llawn hiwmor bachog a sbri diri. Mae’n siwr o blesio dros fisoedd yr Hâf. Ymunwch â Theatr na n’Ôg wrth iddynt ddechrau ar y dathliadau penblwydd gyda dwy sioe arbennig I blant ifanc a’u teuluoedd. Am fwy o wybodaeth drama@theatr-nanog.co.uk twitter @theatrnanog facebook - Theatr Na N'Óg |
| web site: |
| e-mail: drama@theatr-nanog.co.uk |
| Tuesday, February 14, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
