Mae menter deithiol ryngwladol Dance Roads yn dod i Chapter, Caerdydd ar ddiwedd mis Mai ac yn cynnig cyfle i gynulleidfaoedd weld gwaith 5 o goreograffwyr mewn un rhaglen amrywiol a diddorol.
Coreo Cymru a Chapter yw partner Prydeinig y rhaglen unigryw hon o berfformiadau, a gynhelir ar y cyd â phartneriaid o Ganada, Ffrainc, yr Eidal a'r Iseldiroedd.
Cafodd Coreo Cymru, Cynhyrchydd Dawns Greadigol, Cymru ei lansio ym mis Ionawr 2012, er mwyn annog a rheoli'r broses o greu a chynhyrchu gweithiau dawns newydd, ac i gefnogi datblygiad artistiaid a chwmnïau o Gymru.
Dance Roads yw'r gyntaf o nifer o fentrau gan Coreo Cymru sy'n ceisio cysylltu â chynulleidfaoedd trwy gynnig ffyrdd ysbrydoledig ac amrywiol o ymwneud â'r rhaglen a ffyrdd newydd, hygyrch o gyflwyno perfformiadau dawns.
Sefydlwyd rhwydwaith Dance Roads ym 1989 i gefnogi datblygiad coreograffig ac i roi sylw rhyngwladol angenrheidiol a chyfleoedd rhwydweithio i artistiaid. Hyd yn hyn, mae'r rhwydwaith wedi cyflwyno gwaith dros 80 coreograffwyr o Wlad Belg, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Prydain, Canada, y Weriniaeth Tsiec, yr Eidal, Hwngari, y Swistir, Awstria, Sbaen, Lwcsembwrg a Denmarc. Mae cynrychiolwyr y DG yn y gorffennol yn cynnwys artistiaid o fri rhyngwladol fel Wayne McGregor, Russell Maliphant, Fin Walker ac Eddie Ladd, a gefnogwyd gan wahanol bartneriaid yn y DG yn ystod cyfnodau cynnar eu datblygiad.
Cynrychiolydd Prydain eleni yw'r coreograffydd nodedig, Tanja Råman, sy'n gweithio yng Nghymru. Bydd hi'n cyflwyno ei deuawd 'Unattaching' i gynulleidfaoedd ym Montreal, Bordeaux, Torino, Arnhem a Chaerdydd, a bydd coreograffwyr o bwys o bob un o'r gwledydd partner yn ymuno â hi. Dechreuodd y daith ym Montreal ar 6 Mai, pan ddaeth yr artistiaid sy'n cymryd rhan at ei gilydd am y tro cyntaf. Byddant yn teithio gyda'i gilydd o un wlad i'r llall, yn rhannu gwestai, lleoliadau, prydau bwyd a phrofiadau ac yn cyflwyno eu gwaith i amrywiaeth o gynulleidfaoedd a diwylliannau.
Mae'r rhaglen o bum darn byr yn cynnig rhaglen amrywiol o ddawnsio cyfoes arloesol ac apelgar i gynulleidfaoedd. Fe'i cyflwynir yn Chapter ar ddydd Gwener, 25 Mai am 8pm, gyda sgwrs ar ôl y sioe, ac ar ddydd Sadwrn, 26 Mai am 8pm, gyda pharti ar ôl y sioe. Tocynnau £12 / £10 yn cynnwys gweithgareddau ar ôl y sioe. Gellir eu prynu o Swyddfa Docynnau Chapter drwy ffonio 029 203044 neu ar-lein ar chapter.org.
Cefnogir Dance Roads gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ac asiantaethau cyllido niferus ymhob un o'r gwledydd partner.
danceroads.com |