Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

DANCE SHORTS 2012/2013     

DANCE SHORTS 2012/2013 Gwahoddiad i artistiaid dawns sy'n gweithio yng Nghymru wneud cais i fenter gyffrous yng Nghymru sy'n comisiynu dawns.


Mae Dance Shorts yn dychwelyd eleni yn fwy nag erioed ac mae'n chwilio am 10 munud o ddawns newydd a chyffrous. Mae'n gyfle gwych i artistiaid dawns yng Nghymru ddatblygu eu gwaith mewn amgylchedd cefnogol ac arddangos eu gwaith mewn lleoliadau allweddol yng Nghymru.

Mae Dance Shorts yn bartneriaeth rhwng lleoliadau ac artistiaid a'r nod yw ei gwneud yn haws i gynulleidfaoedd weld talent o'r safon uchaf o Gymru a rhoi cyfleoedd i artistiaid dawns o Gymru arddangos eu gwaith mewn lleoliadau allweddol yng Nghymru. Bydd y gwaith a gomisiynir yn cael ei gyflwyno am ddim yn y cyntedd mewn lleoliadau allweddol ledled Cymru, yn cynnwys Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd, Canolfan Mileniwm Cymru yng Nghaerdydd, Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth, Theatr Torch, Canolfan Gelfyddydau Chapter, Theatr Parc a Dare ac ati. Bydd y gwaith comisiwn yn cael ei berfformio ar Ddiwrnodau Dawns Abertawe ym mis Gorffennaf 2013. Rhaid i'r gwaith a gomisiynir fod wedi'i gyfyngu i 10 munud o hyd, a bydd yn cael ei gyflwyno cyn amrywiaeth o berfformiadau mewn ffurfiau gwahanol ar gelfyddyd.

Y ffi comisiynu yw £3,000 yn ogystal â chostau teithio a llety rhesymol, ac eleni bydd tri darn comisiwn ar gael. Er mwyn sicrhau safon ac addasrwydd y gwaith i'w berfformio, bydd gan y prosiect raglen fentora er mwyn i'r artistiaid gael adborth am y gwaith comisiwn cyn ei gyflwyno'n gyhoeddus. Prif amcanion y rhaglen fentora yw sicrhau safon a gwaith sy'n addas i'r pwrpas.

Mae Dance Shorts yn bosibl yn sgil grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru.


Sut i wneud cais:
Drwy ffurflen gais sy'n agored i unrhyw artist sy'n gweithio yng Nghymru, a fydd yn cael ei hasesu gan banel o bartneriaid prosiect. Cwblhewch y ffurflen gais ac anfonwch DVD o waith diweddar. I gael canllaw llawn a ffurflen gais cysylltwch â Chyfarwyddwr y Prosiect, Emma Carlson yn emmacarlson67@hotmail.com



Y dyddiad cau ar gyfer y ffurflen gais yw 5pm dydd Gwener 13eg Gorffennaf. Gwneir cyhoeddiadau erbyn 27ain Gorffennaf.
 
web site
:
Emma Carlson
e-mail: emmacarlson67@hotmail.com
Wednesday, June 13, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk