Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Rhagolygon o Storm mewn 12 diwrnod     

Rhagolygon o Storm mewn 12 diwrnod

Dim ond 12 diwrnod sydd i fynd hyd nes fydd cynhyrchiad cyffrous Theatr Genedlaethol Cymru ‘Y Storm’ yn agor ei ddrysau yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg.

Cyfieithiad o glasur William Shakespeare ‘The Tempest’ yw’r cynhyrchiad ac mae aelodau’r cast yn cynnwys Kai Owen fel Caliban, Llion Williams fel y prif gymeriad, Prospero, Lisa Marged fel ei ferch Miranda a Meilir Rhys Williams fydd yn chwarae rhan yr ysbryd, Ariel.

Mae ‘Y Storm’, sydd wedi ei addasu gan y bardd Gwyneth Lewis, yn ran o Ŵyl Shakespeare Y Byd (World Shakespeare Festival) y Royal Shakespeare Company a Gŵyl Llundain 2012, sef rhaglen gelfyddydol y Gemau Olympaidd.

Bydd yn cael ei berfformio, mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Pontio a Citrus Arts, ar faes Eisteddfod Genedlaethol 2012 yn Llandow, Bro Morgannwg ar:

Nos Fawrth 07 Awst 2012 am 5:30pm

Nos Fercher – Nos Wener 08-10 Awst 2012 am 7:30pm

A Dydd Sadwrn 11 Awst 2012 am 2:30pm

Bydd hefyd i’w weld 18-21 Medi 2012 yng Nghaerfyrddin a 02-06 Hydref ym Mangor.

Mae’r addasiad newydd yma yn cynnwys cerddoriaeth fyw a gwaith corfforol herfeiddiol byd y syrcas gan gwmni Citrus Arts.

Meddai Elen Bowman, Cyfarwyddwr Y Storm: “ Mae’r ymarferion dros y dair wythnos ddiwethaf wedi mynd yn hynod o dda ond mae’n gyfnod heriol iawn i’r actorion a’r criw artistig gan fod Y Storm yn llawn agweddau cyffrous o syrcas, dawns, cerddoriaeth ac ychydig o hud a lledrith!


“Mae cyflwyno ‘The Tempest’ i gynulleidfa Gymraeg, a gweithio gyda Gwyneth Lewis i archwilio beth sy’n digwydd i stori glasurol pan y’i llefarir hi yn Gymraeg – yn mynd i fod yn ddathliad diwylliannol arbennig ac edrychwn ymlaen yn fawr i weld ymateb y cyhoedd i’r cynhyrchiad mentrus hwn.”
 
web site
:

e-mail:
Friday, July 27, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk