Yn dilyn llwyddiant taith ddrama i Gastell y Waun yn Eisteddfod Wrecsam 2011, rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein bod ni’n gallu cynnig taith arbennig arall. Dyma gyfle i chi Eisteddfodwyr fwynhau taith yn rhad ac am ddim i ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae’r Ganolfan yn awyddus i’ch croesawu ac felly wedi trefnu gweithgareddau ar eich cyfer. Mae’r amserlen isod, ond bydd y daith yn cynnwys trafnidiaeth i’r Ganolfan, , taith dywys tu cefn llwyfan a chyfle unigryw i gael ymweld ag arddangosfa newydd y Ganolfan. Dros gyfnod yr haf bydd y Ganolfan yn gartref i arddangosfa ar y cyd rhwng Iwan Bala a Menna Elyn. Bydd y ddau artist yno i’ch cyfarch a chynnal sgwrs am y gwaith. A chyn dychwelyd i’r Maes, byddwch chi’n cael eich tywys i Far a Bwyty ffresh am luniaeth. Does dim ond lle i 30, felly cyntaf i’r felin.... I gadw’ch lle e-bostiwch hannah.wynn.jones@wmc.org.uk Amserlen 3.30pm Bws (Watts Coaches) yn gadael Prif Fynedfa’r Maes 4pm Taith Dywys o amgylch y Ganolfan 4.45pm Cwrdd â Menna Elfyn ac Iwan Bala 5.45pm Lluniaeth ym Mar ffresh 7pm Dychwelyd ar fws (Watts Coaches) i’r Maes |
| web site: |
| e-mail: hannah.wynn.jones@wmc.org.uk |
| Wednesday, August 1, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
