Bydd Sherman Cymru yng Nghaerdydd yn ehangu eu gweithdai drama wythnosol i blant, sef y Sherman Sherbets, i gynnwys sesiynau penodol yn yr iaith Gymraeg. Mae Sherman Cymru wedi bod yn cynnal y gweithdai drama llwyddiannus hyn yn y brifddinas ers dros 7 mlynedd bellach, ac yn ystod tymor yr hydref eleni byddwn yn lansio gweithdy Sherman Sherberts yn y Gymraeg. Anelir y gweithdai at blant 4-9 mlwydd oed. Maent yn rhoi cyfle i bobl ifanc fynegi eu hunain yn greadigol, a hefyd yn hybu eu hyder mewn amgylchedd diogel. Byddant hefyd yn cael lot o hwyl ac yn gwneud llu o ffrindiau newydd. Cynhelir y Sherman Sherbets bob bore Sadwrn o ddydd Sadwrn 29 o Fedi am 10 wythnos. Dyma mae Leon, sydd wedi bod yn mynychu’r Sherman Sherbets ers sawl blwyddyn, yn ei ddweud: “Mae’r Sherbets yn hwyl! ‘Rydym yn chwarae lot o gemau fel yr un lle mae’n rhaid i chi wneud siapiau wedi’u rhewi neu weiddi geiriau gwirion a ‘rydym yn creu storïau.” Gweithdy ychwanegol fydd y Sherman Sherbets Cymraeg, gan gyfarfod am y tro cyntaf yn Sherman Cymru, Ffordd Senghennydd, Caerdydd o 11.30am – 1pm, ar ddydd Sadwrn 29 o Fedi am 10 wythnos. £60 yw’r ffioedd bob tymor, â chonsesiwn o £30. Os hoffech ragor o wybodaeth am weithdai Cymraeg y Sherman Sherbets, neu am y gweithdai Saesneg arferol, cysylltwch â Catrin Peart, ein Cynorthwy-ydd Dysgu Creadigol ar 02920 646911 neu catrin.peart@shermancymru.co.uk |
| Sherman Cymru web site: |
| Catrin Peart e-mail: catrin.peart@shermancymru.co.uk |
| Friday, September 7, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
