Oeddech chi yn rhan o brotest enwog Pont Trefechan yn Aberystwyth yn 1963? Fyddech chi yn barod i rannu eich atgofion er mwyn helpu creu darn o theatr i goffau’r digwyddiad hanesyddol yma? Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn awyddus i glywed oddi wrth unrhywun a oedd yn rhan o brotest Pont Trefechan, boed yn brotestwyr, yn heddlu neu yn drigolion tref Aberystwyth, er mwyn recordio eu hatgofion. Bydd yr atgofion hyn yn cael eu defnyddio gan dri awdur fel sail i greu drama safle benodol ‘Y Bont’ a fydd yn cael ei berfformio yn Aberystwyth ar 03 Chwefror 2013, union hanner can mlynedd ers y brotest. Mae sawl unigolyn a oedd yn rhan o’r brotest eisoes wedi rhannu eu hatgofion gyda’r Cwmni ond mae’r awduron sydd ynghlwm â’r prosiect, sef Angharad Tomos, Catrin Dafydd a Ceri Elen, yn awyddus i glywed oddiwrth mwy o’r protestwyr er mwyn sicrhau eu bod yn cael darlun clir o’r hyn a ddigwyddodd cyn, yn ystod, a wedi’r brotest. Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru: “Mae protect Pont Trefechan yn cael ei hystyried fel dechrau brwydr yr iaith Gymraeg felly mae’n briodol ein bod ni fel y prif gwmni drama iath Gymraeg yn mynd ati i ddathlu’r digwyddiad. Mae selio’r gwaith ar atgofion yr unigolion a oedd yno ar Bont Trefechan hanner can mlynedd yn ôl yn hanfodol i ni er mwyn sicrhau adlewyrchiad teg o’r digwyddiad. “Rydym eisoes wedi cael cyfweliadau difyr iawn gyda’r hanesydd John Davies a’r dramodydd Gareth Miles a oedd yno ar y dydd. Dwi’n annog unrhywun a oedd ag unrhyw gysylltiad â’r brotest i gysylltu gyda ni yn Theatr Genedlaethol Cymru fel bod eu hatgofion yn gallu ein helpu i greu’r darn cyffrous yma.” Gellir cysylltu â Theatr Genedlaethol Cymru ar 01267 233882 neu e-bostiwch thgc@theatr.com. |
| web site: |
| e-mail: thgc@theatr.com |
| Friday, September 21, 2012 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
