Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Earthfall ar restr fer Canmol, Gwobrau Marchnata Cymru!     

Earthfall ar restr fer Canmol, Gwobrau Marchnata Cymru!
Ar ddydd Gwener, 5 Hydref yng ngwesty'r Mercure Holland House yng Nghaerdydd, bydd Earthfall yn cystadlu yn erbyn 15 o frandiau a busnesau mwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys Partneriaeth Dewi Sant Cyf, Confused.com a Legal & General am Wobr Canmol yng Ngwobrau Marchnata Cymru.

Roedd ymgyrch Earthfall ar gyfer eu cynhyrchiad dawns nodedig, At Swim Two Boys, yn 2011/12 yn llwyddiant ysgubol ac fe lwyddodd i gyflawni pob targed a osodwyd. Llwyddwyd i dreblu niferoedd y gynulleidfa o gymharu â'r ddwy flynedd flaenorol, i gynyddu'r gynulleidfa gyfartalog o 20% ac i fwy na dyblu'r targed ariannol. Yn ogystal â hyn, llwyddodd Earthfall i wneud rhywbeth na wnaeth yr un cwmni dawns Cymreig yn y gorffennol - gwerthu pob tocyn am rediad o dair wythnos yn Llundain, a hynny cyn y noson agoriadol. Fe lwyddodd yr ymgyrch i godi proffil y cwmni yn y cyfryngau cenedlaethol ac fe aeth y cynhyrchiad i fwy o leoliadau yn y DG na'r un cwmni Cymreig arall; dyblwyd nifer y perfformiadau ac roedd yna ddeg gwaith yn fwy o berfformiadau y gwerthwyd pob tocyn ar eu cyfer o gymharu â'r daith flaenorol. Mae Earthfall yn derbyn cyllid refeniw gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Crëwyd Gwobrau Canmol yn 2008 i ddathlu a hyrwyddo rhagoriaeth yn y diwydiant marchnata yng Nghymru. Mae Canmol yn wobrau sans frontières ac fe fydd pedair ymgyrch yn derbyn gwobrau ar sail rhagoriaeth yn eu cyd-destunau penodol; y nod yw tynnu sylw at y modd y mae meddwl yn greadigol a strategol yn arwain at greu gwaith gwirioneddol arwyddocaol.

Dywedodd Lewis Gwyther, Swyddog Marchnata Earthfall, a oedd yn gyfrifol am yr ymgyrch, "Roedd hi'n anrhydedd fawr i gyrraedd y rhestr fer, yn enwedig o ystyried y cwmnïau mawrion sydd hefyd ar y rhestr. Roeddem yn falch iawn o'n hymgyrch - llwyddodd i gyflawni pob un o'n targedau ac roedd yn adlewyrchiad o'r gwaith caled a'r angerdd a oedd yn sail i farchnata'r sioe. "

Dywedodd Jonathan Deacon, Cadeirydd y Beirniaid: "Fel bob amser, roedd dewis rhestr fer yn dasg anodd, a hynny'n arwydd clir o'r cyfoeth o dalent sydd gan y diwydiant yng Nghymru. Ond daeth 15 brand i'r brig oherwydd eu bod wedi meddwl yn strategol ac wedi sicrhau canlyniadau gwych."

Ychwanegodd Richard Houdmont, Cyfarwyddwr y Sefydliad Siartredig ar gyfer Marchnata yng Nghymru: "Nod y Sefydliad yw gosod safonau a dathlu rhagoriaeth o fewn y diwydiant marchnata ac mae Gwobrau Canmol yn helpu'r rheiny sy'n cystadlu i fesur eu gwaith yn erbyn y goreuon yn y wlad - mae hynny'n sicrhau bod yr arferion gwaith gorau yn cael eu hyrwyddo ar hyd a lled y diwydiant yng Nghymru."

"Rydym yn falch iawn o gefnogi'r gwobrau hyn sy'n caniatáu i'r goreuon ym myd marchnata ennill cydnabyddiaeth haeddiannol am eu gwaith."


Gellir prynu tocynnau ar gyfer y seremoni wobrwyo trwy we-fan www.cim.co.uk/47831 - neu ffoniwch 01628 427340.

Bydd sioe nesaf Earthfall, Chelsea Hotel, yn dechrau yn ystod Gwanwyn 2013 ac yn teithio ledled y DG. Yn seiliedig ar y gwesty enwog yn Efrog Newydd, bydd Earthfall yn datgelu peth o farddoniaeth, hiwmor a gwallgofrwydd y gwesty eiconig a'i le unigryw mewn diwylliant cyfoes dros gyfnod o sawl degawd, gan edrych ar fywydau gwesteion nodedig fel Dylan Thomas ac Arthur C Clarke, Leonard Cohen a Sid a Nancy. Ewch i www.earthfall.org.uk a chliciwch ar Cynhyrchiad Cyfredol am fwy o wybodaeth.

Gallwch ddilyn gweithgarwch Earthfall ar Twitter @Earthfall neu ddod o hyd i'r cwmni ar Facebook
 
web site
:

e-mail:
Monday, October 1, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk