Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Annog Cyfarwyddwyr Newydd i Fyd Y Theatr Yng Nghymru     

Annog Cyfarwyddwyr Newydd i Fyd Y Theatr Yng Nghymru

CWRS CYFARWYDDO LIVING PICTURES 2012/13
, MEWN CYDWEITHREDIAD A THEATR GENEDLAETHOL CYMRU A SHERMAN CYMRU

Ariannwyd y prosiect gan Cyngor Celfyddydau Cymru

Bydd pump o gyfarwyddwyr theatr y dyfodol wedi dechrau ar eu taith i i ddysgu sgiliau cyfarwyddo gyda cwmni Living Pictures mewn cydweithrediad â Theatr Genedlaethol Cymru a Sherman Cymru.

Mae'r pump, sef Ffion Dafis, Wyn Mason, Ffion Haf, Janet Aethwy a Rhiannon Williams eisoes wedi dechrau ar y cwrs blwyddyn o hyd a byddant yn cael eu hyfforddi yn benodol ar gyfarwyddo a datblygu gwaith newydd i'r llwyfan, boed hynny yn waith testun gydag awdur neu gwaith mwy arbrofol ac aml-blatform.

Twitoriaid gwadd y cwrs, sydd yn cael ei gynnal dan nawdd Cyngor Celfyddydau Cymru, fydd Marc Rees, Sasha Wares a Steve Waters ymysg eraill. Pen llanw y cwrs fydd llwyfannu tair drama newydd gan Meic Povey, Caryl Lewis a Branwen Davies yn Sherman Cymru ym mis Medi 2013 dros gyfnod o wythnos.

Bydd dau gyfarwyddwr yn datblygu dau ddarn newydd arall gan Theatr Genedlaethol Cymru sydd yn cynnwys drama gan yr awdur Siwan Jones.

Meddai trefnydd a tiwtor y cwrs Elen Bowman: “Mae’r cwrs yma, a fydd yn cael ei gynnal dros y 12 mis nesa, yn gyfle gwych i ddatblygu pump llais newydd ac unigryw i’r diwydiant theatr yng Nghymru. Mae'r grwp ac ystod eang o ran profiad ac oedran ond yn rhannu brwdfrydedd egniol at greu theatr newydd a chyfoes yng Nghymru.”


Llun: o'r chwith i'r dde: (rhes gefn) Janet Aethwy, Ffion Haf, Rhiannon Williams; (Yn eistedd) Ffion Dafis a Wyn Mason

 
web site
:

e-mail:
Thursday, November 22, 2012back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk