|
Dewch i ddysgu’r gelfyddyd Fwrlésg gan un o’r goreuon
|
Ddydd Sadwrn 26 Ionawr bydd y ddawnswraig Fwrlésg fyd enwog, Miss Tempest Rose, yn cynnal Dosbarth Bwrlésg yn y Theatr Newydd, Caerdydd. Yn addas ar gyfer dechreuwyr neu unrhyw un sydd wedi rhoi cynnig ar ddawnsio Bwrlésg o’r blaen, bydd hwn yn 90 munud o hwyl i ddysgu’r gelfyddyd egsotig hon gan arbenigwraig. Bydd Miss Tempest Rose yn ymddangos yn y sioe Shipwrecked gan the House of Burlesque, ddydd Gwener 25 a dydd Sadwrn 26 Ionawr yng Nghaerdydd.
Yn syniad da am rodd Nadolig amgen a hwyl, cost y dosbarth yw £10 (i’r sawl sydd wedi prynu tocyn i weld Shipwrecked) neu £15 i bawb arall. Dylai’r sawl sy’n cymryd rhan yn y dosbarth wisgo dillad cyfforddus, ac mae croeso iddynt wisgo gwisg Bwrlésg os ydynt yn dymuno – ond nid yw hynny’n ofynnol. Argymhellir gwisgo sodlau uchel. Ni fydd y dosbarth yn cynnwys unrhyw noethni.
Bu Shipwrecked - sef sioe gabarét a bwrlésg hwyl ac erotig gan wneuthurwyr y sioe ‘Circus Burlesque’ a gafodd glod gan feirniaid ac enillodd wobrau - yn boblogaidd iawn yn y West End. Bydd gwesteion arbennig a ddewiswyd o blith goreuon y byd bwrlésg, cabarét a syrcas yn ymddangos ochr yn ochr â Miss Tempest Rose.
Y ddawnswraig fwrlésg Tempest Rose yw un o artistiaid mwyaf cyffrous ac amryddawn y byd, gan arbenigo mewn arddull Fwrlésg ddifyr a theatraidd sy’n deffro atgofion am oes aur sêr megis Gypsy Rose Lee a Mae West. Yn berfformwraig ryngwladol arobryn sydd wedi ymddangos mewn llawer o sioeau poblogaidd, mae gan Tempest Rose lais canu trawiadol hefyd sydd wedi ennyn clod gan feirniaid. Mae hi hefyd wedi ymddangos mewn tair sioe yn y West End, wedi ymddangos ar y teledu sawl tro ac yn gweithio’n rheolaidd yn lleoliadau cabaret a theatr gorau’r DU. Mae gan Miss Tempest Rose ffydd yng ngallu bwrlésg i ysbrydoli, codi’r galon a difyrru a syfrdanu cynulleidfaoedd ledled y byd, ac mae hithau wedi gwneud gyrfa drawiadol wrth wneud hynny.
Cynhelir y Dosbarth Bwrlésg ddydd Sadwrn 26 Ionawr am 3pm yn y Theatr Newydd, Caerdydd. Dim ond yn bersonol neu dros y ffôn y gellir prynu tocynnau ar gyfer y Dosbarth Bwrlésg, nid ydynt ar gael ar-lein, a dim ond 35 ohonynt sydd ar gael. Am ragor o fanylion neu i archebu tocynnau, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.
|
web site: |
e-mail: |
Thursday, December 6, 2012 |
|
|
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999