Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

THEATR BARA CAWS yn cyflwyno HWYLIAU’N CODI     

THEATR BARA CAWS yn cyflwyno HWYLIAU’N CODI Ar daith: Mawrth 5ed – Ebrill 6, 2013

Actorion: Gwion Aled, Rhian Blythe, Mirain Haf, Carwyn Llyr, Rhodri Sion
Cyfarwyddwr: Betsan Llwyd


Yn ôl a ni mewn amser i Gyfnod Teyrnasiad yr hen Gwîn Victoria, ac ymunwch â John, Robert, Richard Davies (a’i wraig Ann) - perchnogion cwmni llongau llewyrchus o Fôn - ynghyd â llu o gymeriadau isel ac amheus eraill! ‘Roedd y cwmni’n gyfrifol am gludo cannoedd o Gymry, glo a nwyddau o bob math o Lerpwl a Llundain i bedwar ban byd, ac yn dychwelyd gyda sawl cargo - yn fwy penodol y giwano drewllyd o ynysoedd anghysbell arfordir Gorllewin De America.

Ond ‘roedd ochr arall i’r geiniog. ‘Roedd y colledion ym mysg y llongau’n uchel, sawl un ohonynt yn diflannu am byth, a nifer o’r morwyr yn cael eu sgubo oddi ar y dec neu’n syrthio o’r rigin mewn tywydd enbyd.


UN O GYNYRCHIADAU CYNTAF CWMNI THEATR BARA CAWS ERIOED!

RIFIW GYMUNEDOL O’R HEN DEIP
 
web site
:

e-mail:
Wednesday, January 23, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk