Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Y Ffwrnes yn rhoi cyfle i blant ysgol Sir Gār i gael mewnwelediad i sgiliau ar gyfer gyrfa yn y theatr.     

Y Ffwrnes yn rhoi cyfle i blant ysgol Sir Gār i gael mewnwelediad i sgiliau ar gyfer gyrfa yn y theatr. Bydd y Ffwrnes yn caniatáu mynediad tu ôl i'r llenni i Creative Choices (Offstage Choices gynt) yn cynnig cyfle prin i blant o ysgolion uwchradd yn Sir Gaerfyrddin, i gael profiad ymarferol o'r sgiliau sydd eu hangen i weithio ar gynyrchiadau tiriog proffesiynol.

Ar Chwefror 25ain 2013, bydd y theatr newydd yn fwrlwm gyda phobol ifanc leol yn cael cyfle i fwynhau cyfle prin i gael blas go iawn o gyfrinachau a sgiliau tu ôl i'r llenni a chyfle i drafod opsiynau er mwyn gweithio tuag at yrfa theatr posib “allan o’r chwyddwydr” 'yn hytrach nag yn llygad y cyhoedd.

Dywedodd Rhian Wyn, Rheolwr Technegol y Ffwrnes "Rydym yn falch iawn bod CCSkills wedi penderfynu lansio eu taith Cymru-gyfan o ddigwyddiadau Dewisiadau Creadigol yn y Ffwrnes, Llanelli. Mae unrhyw beth a all oleuo plant, o oedran ffurfiannol, o'r cyfleoedd gyrfaol, yn amlwg yn gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir, mewn diwydiant sydd angen meithrin cenhedlaeth newydd o dalent greadigol. "

Bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, bydd y rhaglen yn cyrraedd 9,000 o bobol ifanc ar draws y DU fydd i gyd yn derbyn ac yn cymryd rhan mewn gweithdai cefn llwyfan a thu ôl i'r llenni ynghyd a chael profiad ymarferol o waith ar bob lefel o'r diwydiannau hyn. Y digwyddiad yn y Ffwrnes yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru.

Mae digwyddiadau Dewisiadau Creadigol yn rhoi myfyrwyr mewn lleoliadau gydag arbenigwyr yn
y diwydiant fel y gallant brofi ystod eang o gyfleoedd gyrfaol sydd ar gael o fewn y diwydiannau creadigol. Y Ffwrnes yw un o 33 aelod sefydliadau Sgiliau Academi ledled y DU sy'n cymryd rhan.

Dywedodd Catherine Large, Prif Weithredwr ar y Cyd, Sgiliau Creadigol a Diwylliannol,: "Bydd y gyfres genedlaethol o ddigwyddiadau yn galluogi pobl ifanc i ddarganfod llwybrau gyrfaol, roi cynnig ar rai o'r swyddi a chwrdd gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Trwy gysylltu'r lleoliadau hyn a chyflogwyr posib gydag ein Colegau Sylfaenydd Addysg Bellach, bydd pobl ifanc hefyd yn cael gwybod am hyfforddiant a chefnogaeth i fynd i mewn i swyddi a gyrfaoedd yn eu hardal. "


Ffwrnes - Theatrau Sir Gâr | Stryd y Parc, Llanelli, SA15 3YE
Y Ffwrnes  
web site
:

e-mail:
Wednesday, February 13, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk