|
Yn ystod yr haf, bydd Bara Caws /Clwyd Theatr Cymru yn anfon yr actores Lisa Jen Brown i Ffrisia i fod yn rhan o gydgynhyrchiad theatr ryngwladol sy'n ymwneud â iaith a hunaniaeth. Enw'r cynhyrchiad fydd "Salted" ac mae'n brosiect gan 8 cwmni theatr o 8 cymuned Ewropeaidd sydd â iaith leiafrifol: Ffrisia, Gwlad y Basg, Cymru, Occitania, Iwerddon, Sorbia yr Almaen, SámiNorwy a Slofenia'r Eidal. Bydd pob cwmni'n anfon actor ifanc. Yn ogystal â'r Saesneg, bydd pob un ohonynt yn siarad eu hiaith eu hunain yn y sioe. Perfformir y sioe yng ng^wyl theatr Oerol. Fe'i cynhelir ar ynys "Skylge" Ffrisia rhwng y 14eg a'r 23ain o Fehefin. Mae'r ^wyl yn enwog am lwyfannu sioeau sy'n benodol berthnasol i'r safle, ac mae'n denu cynulleidfaoedd o oddeutu 40,000 o bobl. Ym mis Hydref, bydd y sioe'n teithio i Bautzen (yn yr Almaen) ac i Theatr Gwynedd ym Mangor a Theatr Ardudwy, Harlech ym mis Hydref. Rhan o brosiect Offspring yw'r cynhyrchiad hwn. Rhwydwaith rhyngwladol o gwmnïau theatr sy'n perfformio mewn iaith leiafrifol yw Offspring ac mae oddeutu 20 o gwmnïau o bob rhan o Ewrop yn rhan o'r rhwydwaith hwn. Maent wedi bod yn cydweithredu ar lefel eithaf dwys ers 5 mlynedd. Nod y prosiect yw hyrwyddo (yn rhyngwladol) theatr drwy gyfrwng ieithoedd lleiafrifol, gwneud y cwmnïau'n llai ynysig yn eu rhanbarthau, a chreu cyfle i bobl ifanc sy'n creu theatr yn y rhanbarthau hynny gymryd rhan. Felly, trefnwyd g^wyl, cyfarfodydd ac ymweliadau astudio, a chrëwyd cyfleoedd i gael profiad gwaith a chyfnewid dramâu. Sytske de Boer o gwmni Tryater yn Ffrisia a ysgogodd brosiect Offspring ac hi hefyd sy'n ei gydlynu. Awdur y cydgynhyrchiad “Salted” yw Judith de Rijke. Bydd natur amlieithog y ddrama, y lleoliad ysblennydd a'r ffaith fod yr actorion i gyd yn bobl ifanc ac yn dod o wahanol ddiwylliannau (o ran y theatr), i gyd yn sicrhau y bydd y sioe'n un arbennig iawn. Seiliodd Judith de Rijke y ddrama ar ddau weithdy y bu'n gweithio'n ynddynt yn 2000 a 2001 gyda'r actorion. De Rijke: “Mae'r actorion sy'n rhan o'r sioe'n gwybod sut beth ydy siarad iaith leiafrifol. Mae cwlwm arbennig yn clymu pob un ohonynt at eu hiaith. Maen nhw'n ceisio cadw'u hunaniaeth a'u diwylliant eu hunain, fel nad ydyn nhw'n diflannu i grombil diwylliant cryfach”. Felly, mae hyn yn creu tyndra rhwng y personol a'r cyffredinol. Dyna graidd y sioe." Noddir y cynhyrchiad gan / Mae'r Cynhyrchiad yn bosibl oherwydd y canlynol: Cronfa Ddiwylliant yr Iseldiroedd HGIS-cultuur, y Comisiwn Ewropeaidd, Werkplaats Oerol, Cronfa VSB, Provinsje Fryslân, Wales Arts International, a phob cwmni sy'n rhan o'r prosiect. |
| Bara Caws web site: |
| Linda Brown e-mail: tbaracaws@btconnect.com |
| Thursday, May 16, 2002 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
