Mae canolfan celfyddydau ddi-elw yn y Gorllewin wedi cynyddu ei throsiant, ehangu ei gweithlu a datblygu sgrin sinema ddigidol newydd ar ôl datblygiad sylweddol y llynedd.
Daeth Theatr Mwldan yn Aberteifi i fodolaeth fel prosiect theatr gymunedol yn y 1980au ac mae bellach wedi gweddnewid ei hun i fod yn ganolfan celfyddydau ac adloniant wobrwyedig.
Ar ôl sicrhau cyllid ar ffurf benthyciad o’r Gronfa Fuddsoddi Cymunedol, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, ddiwedd 2011, dechreuodd Mwldan ar ddatblygiad a arweiniodd at agor sinema ddigidol newydd, gyda 101 sedd ynddi, yn ystod haf y llynedd.
Rheolir y Gronfa Fuddsoddi Cymunedol gan WCVA ac mae’n canolbwyntio ar gynorthwyo mentrau di-elw ac elusennau i gael mynediad at fenthyciadau na fyddent yn gallu eu cael gan fenthycwyr masnachol.
Chwe mis ar ôl agor y sinema newydd, mae Mwldan wedi cynyddu ei gwerthiant 37.9 y cant, wedi creu tair swydd newydd ac mae ar y trywydd iawn i gynyddu nifer y sgriniadau a ddangosir yn ei sinema bob blwyddyn o 2000 i 3000, ar ben y rhaglen ddigwyddiadau byw ac arddangosiadau.
Mae gan y sgrin newydd - Mwldan 3 – offer taflunio digidol ansawdd uchel a gall gyflwyno darllediadau lloeren byw a 3D digidol. Cafodd ei datblygu ochr yn ochr â’r ddwy sgrin a oedd yno yn barod gan wneud Mwldan y sinema dair-sgrin gwbl-ddigidol annibynnol gyntaf yng Nghymru.
Wrth adlewyrchu ar y datblygiad, dywedodd Dilwyn Davies, Prif Weithredwr Mwldan: ‘Mwldan 3 oedd ein datblygiad mwyaf ers wyth mlynedd ac mae’n helpu i gadw Theatr Mwldan ymysg y ceffylau blaen ym myd y sinema ddigidol.
‘Mae nifer y sgriniadau a gynllunnir bellach wedi cynyddu o 2000 y flwyddyn i 3000, ac mae’r lle ychwanegol hwn wedi’n galluogi i amrywio ein rhaglen ffilmiau’n sylweddol.
‘Gallwn nawr ddangos mwy o ffilmiau ar y dyddiad rhyddhau, ac rydym hefyd wedi gallu dangos ffilmiau poblogaidd megis Skyfall, Quartet a Les Miserables am gyfnod hirach.
‘Yn ei dro, mae hyn yn ein galluogi i gynyddu ein trosiant drwy refeniw
ychwanegol o’r hysbysebion ar y sgrin.’
Yn ogystal â’r benthyciad drwy WCVA, cafodd y sinema ddigidol newydd gefnogaeth gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a’r Bartneriaeth Ariannu Digidol.
Ychwanegodd Dilwyn Davies: ‘Mae’r datblygiad hwn wedi bod yn ardderchog gan ddarparu i’r gymuned leol ddewis gwell o lawer o ffilmiau, mwy o ffilmiau ar eu dyddiad rhyddhau cenedlaethol, a phrofiad o’r dechnoleg ddiweddaraf ym myd y sinema ddigidol.
‘Gan ein bod yn fenter ddi-elw, mae bob ceiniog a enillwn yn cael ei hailfuddsoddi yn y mudiad, gan sicrhau bod y ganolfan, ac Aberteifi, yn parhau i fod yn leoliad ac yn ganolfan ddiwylliannol flaenllaw ar gyfer y Gorllewin.’
Dywedodd Matthew Brown, rheolwr y Gronfa Fuddsoddi Cymunedol yn WCVA: ‘Rydym yn darparu benthyciadau i fudiadau di-elw er mwyn eu cynorthwyo i gynhyrchu ffrydiau incwm newydd a chreu cyflogaeth leol drwy fentrau sy’n cael effaith bositif ar y gymuned.
‘Mae hon yn enghraifft wych gan fod ein buddsoddiad wedi helpu Theatr Mwldan i gynyddu ei throsiant a chyflogi mwy o bobl, gan hefyd ddatblygu ased cymunedol a gwella cyfleoedd hamdden i’r gymuned leol.
‘Trwy'r Gronfa Fuddsoddi Cymunedol, ein Cronfa Fenthyciadau Eiddo gyda Unity Trust Bank ac ein cronfa Micro-fenthyciadau gyda Cyllid Cymru, mae bellach ystod lawn o becynnau benthyg cyllid bach, canolig a mawr ar gael yn benodol i'r trydydd sector yng Nghymru drwy WCVA.’
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru: ‘Mae datblygiad Mwldan 3 ynghyd â dwy sgrin gyfredol y ganolfan yn gwneud Mwldan y sinema dair-sgrin gwbl-ddigidol annibynnol gyntaf yng Nghymru. Mae Mwldan 3 wedi creu gwelliannau rhagorol i’r theatr yn ei chyfanrwydd, gan greu cyfleoedd economaidd newydd sylweddol yn Aberteifi ac adfywio’r holl ardal o amgylch y theatr.
‘Amcanion hirdymor Mwldan 3 yw darparu cyfleoedd pellach i ehangu’r rhaglen gyflwyniadau a chynyddu incwm drwy werthiant.’
|