Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Ballet Cymru yn cyflwyno Romeo a Juliet....     

Ballet Cymru yn cyflwyno Romeo a Juliet.... Romeo a Juliet
Gan William Shakespeare

From forth the fatal loins of these two foes
A pair of star-crossed lovers take their life

Un o gwmnïau arobryn Gwobr y Critics Circle, Ballet Cymru, yn cyflwyno addasiad rhyfeddol o gampwaith Shakespeare, “Romeo a Juliet”.

Ymladd enbyd, deuawdau angerddol a themâu hollgyffredinol yn atseinio drwy goreograffi dramatig a thelynegol. Gwisgoedd gwych a thafluniadau fideo rhyfeddol yn creu byd o beryg a chyffro lle delir dau gariad ifanc mewn cynnen oesol.

Cydweithrediad egnïol a dihafal ydi “Romeo a Juliet” rhwng tri o gyrff eithriadol Cymru yn y celfyddydau, Ballet Cymru, Coreo Cymru (Cynhyrchydd Dawns Greadigol i Gymru www.coreocymru.com) a Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd (www.newport.gov.uk/theriverfront)

Bydd “Romeo a Juliet” yn cynnwys gwisgoedd gan Georg Meyer-Wiel (www.meyerwiel.com) a astudiodd yn The Royal College of Art ac sydd wedi creu gwisgoedd i rai o gwmnïau blaenllaw’r byd gan gynnwys Rambert Dance Company ac Australian Dance Theatre.

But soft, what light through yonder window breaks?
It is the east, and Juliet is the sun.

At y tîm coreograffig a ddaeth â “Beauty and the Beast” yn 2011 a "Little Red Riding Hood & the Three Little Pigs” Roald Dahl yn 2012, daw’r cyd-goreograffydd Jo Fong. Mae Jo wedi gweithio gyda chwmnïau lawer gan gynnwys Rosas, Rambert Dance Company, a DV8 Physical Theatre.

Bydd y gerddorfa o Gymru Sinfonia Cymru yn perfformio sgôr enwog Prokofiev yn fyw mewn rhai oedfannau.

Ensemble o ddawnswyr ifainc llawn mynd ydi Ballet Cymru sy’n gwthio’n ôl derfynau ballet clasurol. Gan ddefnyddio straeon grymus a bythol mae’r cwmni’n herio ei ddawnswyr i ddehongli rhai o’r cymeriadau gorau mewn llenyddiaeth. O dan Gyfarwyddyd Artistig Darius James mae’r cwmni’n dal i feithrin ei berthynas â chynulleidfaoedd drwy weithdai addysgol hyddeall a pherfformiadau eithriadol, steilus.

Yn 2006 cafodd Ballet Cymru Wobr Ddawns Genedlaethol, a gyflwynwyd yn Sadler’s Wells.

Yn 2008 cafodd y Cyfarwyddwr Artistig Darius James un o Brif Wobrau Cymru Greadigol.

Yn 2009 daeth y Swyddog Addysg Amy Doughty yn bumed Cymrawd JADE y Paul Hamlyn Foundation.

Yn 2010 dyfarnodd Cyngor Celfyddydau Cymru Statws Refeniw i Ballet Cymru.

Yn 2011 aeth Ballet Cymru ar ei daith dramor gyntaf yn perfformio i 1026 o bobol yn Trieste a 987 yn Como, yr Eidal.

Yn 2012 cafodd Ballet Cymru gyllid £139k gan y Paul Hamlyn Foundation ar gyfer DUETS – rhaglen dair blynedd o waith addysg.

Yn 2013 gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Artistig Darius James i ymuno â’r London Ballet Circle fel Is-lywydd.

Mae’r dyfarniadau a’r cyflawniadau hyn yn ddrych o safon y cwmni sy’n datblygu ym mhob maes. Cafodd cynyrchiadau fel Under Milk Wood yn 2008, Beauty and the Beast yn 2011 a Little Red Riding Hood & The Three Little Pigs Roald Dahl yn 2012 adolygiadau rhagorol mewn papurau newydd a chylchgronau cenedlaethol, gan gynnwys Dance Europe, The Independent a The Guardian. Canlyniad ymroddiad y cwmni i addysg a chymryd rhan mewn dawns fu cael cyllid gan y Paul Hamlyn Foundation i gyflenwi DUETS ar y cyd â Dawns Rubicon. Mae Ballet Cymru hefyd wedi sefydlu rhaglenni hyfforddi rhagorol gan gynnwys yr ysgol haf flynyddol, Dawns Haf Glan yr Afon, y cymerodd myfyrwyr o bedwar ban byd ynddi.
 
web site
:

e-mail:
Friday, April 12, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk