Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Sadwrn Sgript.....     

Cwmni ysgrifennu llwyfan newydd cenedlaethol Cymru yn cynnig diwrnod llawn o weithgareddau a darlleniadau ar gyfer darpar ddramodwyr.

Neuadd Llanover, Caerdydd, Mehefin 15 a 16

Sadwrn Mehefin 15
2 pm - 5pm
Gweithdy Dechrau Ysgrifennu
Gweithdai yng Nghymraeg a Saesneg i ddechreuwyr. Aelodau o Sgript Cymru yn edrych ar ffyrdd ymarferol o ddychmygu cymeriadau a'ch rhoi ar ben ffordd i ysgrifennu ar gyfer y llwyfan.

Sadwrn Mehefin 15
7.30pm
Trying to Be gan Sam Boardman Jacobs

Wedi ei osod ar noson gyntaf y Pasg 1943 a'r un noson 60 mlynedd wedyn, mae'r ddrama bwerus ac emosiynol yma yn ymchwilio effaith digwyddiadau o amgylch gwrthryfel Warsaw wrth iddynt daflegru drwy Hanes. Tair cenhedlaeth yn dod at ei gilydd i ddathlu yn 2002, problemau hunaniaeth, rhywoliaeth a gwrthdaro teuluol yn dod i'r wyneb yn saga y teulu yma wrth i Hanes, unwaith eto, gymryd rhan.
Yn cael ei gyflwyno gyda chymorth 'European Foundation for Jewish Culture'

Sul Mehefin 16
7.30pm
Mab (Son) gan Sera Moore Williams
Wedi ei berfformiad llwyddiannus Eisteddfod Genedlaethol 2001, mae'r ddrama wedi ei chyfieithu i'r Saesneg. Dyma'r cyfle cyntaf i weld y fersiwn yma, cyn i'r cwmni fynd i Korea.
Mae'r ddrama yn defnyddio elfennau o'r stori wrieddiol am fachgen tair ar ddeg oed yn diflannu. Tair blynedd yn ddiweddarach mae'n cael ei ddarganfod yn fyw ac mae ei deulu wrth ei boddau i'w gael adref eto...ond nid yw pethau mor syml â hynny.

Cwmni ysgrifennu llwyfan newydd cenedlaethol Cymru yn cynnig diwrnod llawn o weithgareddau a darlleniadau ar gyfer darpar ddramodwyr.

Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, 10.30am, Sadwrn 8 Mehefin



11am - 1.30pm
Gweithdy gyda Dic Edwards
Gweithdy ymarferol i'ch ysbrydoli a'ch gyrru adref yn llawn syniadau i ysgrifennu. Cyfle i weithio gyda'r dramodwr lleol amlwg hwn trwy gyfrwng y Saesneg.

2.30pm - 5.30pm
Gweithdy dychmygu cymeriad
Yng nghwmni staff Sgript Cymru, gweithdy dwyieithog ar gyfer dechreuwyr, i'ch ysbrydoli i feddwl am ffyrdd i ddychmygu cymeriadau, ac i ysgrifennu ar gyfer y llwyfan.

Rhwng Pob Rhyw Ddau gan Mari Emlyn
Dyfyniad o "Celwydd" gan T.H.Parry Williams yw teitl drama lwyfan gyntaf Mari Emlyn - "Rhwng Pob Rhyw Ddau..". Mae celwydd yn un o'r prif themau sy'n rhedeg drwy'r ddrama gan godi'r cwestiynau - beth ydy gwirionedd, pa mor bosib ydy hi i gael gonestrwydd llwyr, yn arbennig felly o fewn priodas? Beth sy'n brifo fwyaf - y gwir neu beidio gwybod? Pe byddai'r dramodydd yn ateb rhai o'r cwestiynau oesol hyn, sut fyddech chi'n gwybod ei fod o'n dweud y gwir?

Darlleniad Sgript Cymru o waith-ar-droed yn y Gymraeg.

Ceir mynediad rhad ac ddim i'r holl weithgareddau, ond bydd angen sicrhau lle ar y gweithdai trwy ffonio Sgript Cymru ar 029 2023 6650
Sgript Cymru  
web site
:

e-mail:
Thursday, June 6, 2002back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk