Diwrnod Rhwydweithio ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol yn y Celfyddydau sy’n Gweithio gyda Phobl IfancCyfle i archwilio’r potensial ar gyfer Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid sy’n cysylltu darparwyr ac ymarferwyr celfyddydau ieuenctid ar draws Cymru. Pryd: Dydd Sadwrn 15 Mehefin 2013 (10am – 4pm) Lle: Theatr Felinfach Clwyd Theatr Cymru, Yr Wyddgrug Y Ganolfan Ddrama, Llandrindod Bydd y digwyddiadau’n rhedeg ar yr un pryd, gyda chyfleoedd i gyflwyniadau a chrynodebau gael eu cyflwyno a’u rhannu dros y we (drwy Skype neu gyswllt fideo). Cost: *AM DDIM* Darperir cinio Bydd y diwrnod yn cynnwys: (i) gweithgareddau ymarferol i rannu sgiliau, dan arweiniad cyd-ymarferwyr; (ii) cyflwyno meysydd ar gyfer trafodaeth*; (iii)cyfleoedd am drafodaeth a syniadau newydd; (iv) crynodeb a ‘camau nesaf’. *Mae’r meysydd i’w trafod yn cynnwys: · Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru Gyfan – rhesymeg, ar gyfer pwy, sut · rhannu sgiliau a fframweithiau cefnogi ar gyfer ymarferwyr · cynnwys lleisiau a syniadau pobl ifanc – diweddaru ac ehangu’r Rhwydwaith Diddordeb? Cofrestrwch eich bwriad i fynychu drwy e-bostio nyaw@nyaw.co.uk a rhoi Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid yn y llinell pwnc, gan nodi (i) pa leoliad y byddwch yn ei fynychu, (ii) (ii) rhif ffon cysylltu , a (iii) a fyddech yn fodlon arwain sesiwn rhannu sgiliau. Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael a byddant yn cael eu dyrannu yn nhrefn y cyntaf i’r felin. Dyddiad Cau: Dydd Llun 3 Mehefin 2013. Byddwch yn rhan o’r cam cyntaf hwn i greu rhwydwaith sy’n cefnogi a datblygu’r Sector, a’n gwaith gyda phobl ifanc! |
| web site: |
| e-mail: nyaw@nyaw.co.uk |
| Monday, May 20, 2013 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

Diwrnod Rhwydweithio ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol yn y Celfyddydau sy’n Gweithio gyda Phobl Ifanc