|
Y ddrama Gymraeg yn cael cefnogaeth ryngwladol!
|
Cyhoeddiad newydd sy’n garreg filltir nodedig yn hanes y ddrama Gymraeg.
Mae Mwnci ar dân/ Burning Monkey gan Sera Moore Williams, sydd ar fanyleb TGAU Drama CBAC, wedi ei chyhoeddi yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn un gyfrol gan y cwmni rhyngwladol, Bloomsbury.
Adran Adnoddau Addysgol CBAC fu’n gyfrifol am olygu’r fersiwn Cymraeg, gan gydweithio’n agos â’r awdur. Dyma’r ail ddrama o eiddo Sera i ymddangos ar fanylebau CBAC. Mae Crash eisoes ar gael ar gyfer TGAU Drama ac, yn dilyn llwyddiant y ddrama honno, penderfynwyd cynnwys drama arall ganddi ar y fanyleb newydd.
Dywedodd Mari Watkin, Rheolwr Golygyddol CBAC:
“Dyma broject arloesol a fydd, gobeithio, yn rhoi mwynhad i fyfyrwyr TGAU Drama CBAC yn y Gymraeg a’r Saesneg. Mae’r ddrama yn siŵr o daro deuddeg gyda’r gynulleidfa darged, o ran ei themâu a’i chywair.”
“Mae’n ddatblygiad hynod bwysig o ran y ddrama Gymraeg. Hyd y gwyddom, dyma’r ddrama Gymraeg gyntaf i gael ei chyhoeddi gan gyhoeddwyr sydd â’u swyddfeydd ledled y byd yn Llundain, Efrog Newydd, Sydney a New Delhi.”
Mae Mwnci ar dân / Burning Monkey ar gael o Siop CBAC nawr. |
web site: |
e-mail: |
Tuesday, July 30, 2013 |
|
|
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999