Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Jason Donovan yn serennu yn Priscilla Queen of the Desert yng Nghanolfan Mileniwm Cymru     

Jason Donovan yn serennu yn Priscilla Queen of the Desert yng Nghanolfan Mileniwm Cymru

Bydd Jason Donovan yn ailgydio yn rôl Tick yng nghynhyrchiad teithiol PRISCILLA QUEEN OF THE DESERT wrth iddo ymweld â Chanolfan Mileniwm Cymru flwyddyn nesaf. Mae David Ian Productions ac Ambassador Theatre Group wrth eu bodd o gyhoeddi bod y sioe gerdd sy’n hynod lwyddiannus dros y byd PRISCILLA QUEEN OF THE DESERT yn cael ei pherfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru o 7 – 18 Ionawr 2014.

Bydd JASON DONOVAN yn dod yn ôl at rôl Tick, sef y rhan a chwaraeodd pan gafodd y sioe ei première yn West End Llundain. Y llynedd, cyrhaeddodd Jason rownd derfynol ‘Strictly Come Dancing’. Mae wedi cael gyrfa hynod lwyddiannus ac amrywiol fel actor ac fel artist recordio byd-eang sydd wedi gwerthu dros 13 miliwn albwm hyd heddiw. Yn ogystal â “Priscilla Queen of the Desert”, mae ei gredydau West End yn cynnwys y brif ran yn “Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat” a Caractacus Potts yn “Chitty Chitty Bang Bang”. Mae Jason hefyd wedi bod ar daith fel Capten Von Trapp yn “The Sound of Music”, Frank N Furter yn “The Rocky Horror Show”, y brif ran yng nghynhyrchiad John Doyle o “Sweeney Todd” gan Stephen Sondheim ac, ar hyn o bryd, gallwch ei weld fel yr Artilleryman yn “The War of the Worlds”. Mae ei gredydau teledu yn cynnwys “Neighbours” ac “Echo Beach”. Roedd Jason hefyd yn ffeinal y gyfres deledu lwyddiannus “I’m A Celebrity Get Me Out Of Here!” ar ITV.



Yn seiliedig ar y ffilm boblogaidd, mae sioe gerdd PRISCILLA QUEEN OF THE DESERT yn sôn am antur ysbrydoledig a chalonogol tri ffrind sy'n mynd ar daith ar hen fws rhydlyd yn chwilio am gariad a chyfeillgarwch ac yn dod o hyd i fwy nag y gwnaethant fyth freuddwydio amdano.

Gydag amrywiaeth ysblennydd o wisgoedd beiddgar a llu o ganeuon adnabyddus gan gynnwys ‘It’s Raining Men’, ‘Say a Little Prayer’, ‘Go West’, ‘Hot Stuff’ ac ‘Always on My Mind’, mae'r sioe gerdd newydd hynod wreiddiol a doniol hon yn eich tywys ar daith eithriadol.

Mae’r cast yn cynnwys RICHARD GRIEVE sydd yn chwarae’r rhan Bernadette ar ôl chwarae rhan Tick yn flaenorol yn y cynhyrchiad o'r sioe yn y West End. Fwy na thebyg ei fod yn fwyaf adnabyddus fel Jonny Foster yn "Emmerdale". Yn hanu'n wreiddiol o Awstralia, chwaraeodd ran Sam Kratz yn “Neighbours” a Dr Lachlan Frazer yn “Home and Away”. Mae ei rolau theatr yn y DU yn cynnwys taith genedlaethol “Footloose - The Musical” a “Bells Are Ringing” yn yr Unicorn Theatre. Mae ei rolau theatr yn Awstralia yn cynnwys Greg Connell yn “The Boy from Oz” a “How to Succeed in Business Without Really Trying”.

GRAHAM WEAVER fydd yn chwarae rhan Felicia, sef y rhan a chwaraeodd yn y cynhyrchiad o'r sioe yn y West End. Mae ei rolau theatr eraill yn cynnwys Mary Sunshine yn "Chicago" ac "Assassins". Mae rhagor o'r cast i gael eu cyhoeddi.

Agorodd PRISCILLA QUEEN OF THE DESERT yn wreiddiol yn Awstralia yn 2006 a pharhaodd ar y llwyfan am ddwy flynedd cyn agor yn y West End am gyfnod pellach o ddwy flynedd. Yn ddiweddar, cafodd y sioe lwyddiant ysgubol ar Broadway. Dros y blynyddoedd, mae wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys gwobrau clodwiw Olivier a Tony am y Gwaith Dylunio Gwisgoedd Gorau.


Mae tocynnau ar gyfer PRISCILLA QUEEN OF THE DESERT yn amrywio o £15 i £60. Canllaw oedran 15+. I archebu tocynnau neu i gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.wmc.org.uk neu ffoniwch 02920 63 6464.
 
web site
:

e-mail:
Wednesday, August 21, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk