|
Only Kids Aloud i ymweld â Cape Town y gwanwyn nesaf
|
Mae 70 o blant a phobl ifanc a gafodd eu dewis yn ddiweddar ar gyfer côr Canolfan Mileniwm Cymru/Only Kids Aloud wedi cael cyfle i ganu gyda Cape Town Opera yn Ne Affrica fis Ebrill nesaf, yn ystod dathliadau diwylliannol i nodi 20 mlynedd o ddemocratiaeth yn y wlad. Wrth i aelodau'r côr ymgasglu am y tro cyntaf i ddechrau ymarfer yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ddydd Mercher 28 Awst, cawsant wybod am y gwahoddiad hollol annisgwyl gan Reolwr Gyfarwyddwr Cape Town Opera, Michael Williams.
Gan siarad drwy gyfrwng neges fideo, gyda Table Mountain yn y cefndir, dechreuodd Michael Williams, ynghyd â dau o gantorion Cape Town Opera, drwy longyfarch aelodau'r côr ar gael eu dewis ar gyfer Côr Canolfan Mileniwm Cymru/Only Kids Aloud ac am lwyddo yn y broses ddethol anodd. Yna synnodd y plant a'r bobl ifanc yn llwyr drwy eu gwahodd i Dde Affrica i berfformio ochr yn ochr â Cape Town Opera a pherfformwyr eraill o Dde Affrica mewn cyngerdd i'w gynnal yng nghartref prydferth Cape Town Opera, Theatr Artscape, ger glannau Cape Town yn y gwanwyn.
‘Mae Cape Town Opera a Chanolfan Mileniwm Cymru wedi meithrin perthynas agos dros y blynyddoedd - rydym yn hoff iawn o'ch theatr,' dywedodd Michael Williams yn ei neges fideo. 'Nawr, mae angen i ni siarad am ein cydweithrediad nesaf. Mae'r drafodaeth wedi bod yn mynd rhagddi ers misoedd lawer am sut y gallwn gyflwyno'r gorau o Gymru i'r byd, a dod â'r gorau o'r byd i Gymru. Felly rydym wedi cael syniad a all ddod â chi - y gorau o Gymru, wrth gwrs - atom ni yma....Hoffwn eich gwahodd yn ffurfiol i ddod i Cape Town fel ein gwesteion arbennig.'
Gwnaeth aelodau'r côr ifanc talentog a'u rhieni ymateb i'r gwahoddiad gyda sgrechiadau o lawenydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru cyn eu hymarfer cyntaf. Hwn hefyd oedd y tro cyntaf i'r plant a'r bobl ifanc rhwng 9 a 13 oed a gafodd eu dewis yn dilyn clyweliadau ledled y wlad ym mis Mai, gwrdd â'i gilydd.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru wedi mwynhau partneriaeth 10 mlynedd gyda Cape Town Opera, ers i’r dyn busnes o Dde Affrica Syr Donald Gordon gyfrannu £10m tuag at adeiladu’r Ganolfan yn 2003. Un o amodau’r cyfraniad oedd i’r Ganolfan greu perthynas gyda chwmni creadigol yn ei famwlad. Dywedodd Bet Davies o Ganolfan Mileniwm Cymru “Mae traddodiadau corawl cryf yng Nghymru ac yn Ne Affrica felly roedd ein partneriaeth gyda Cape Town Opera yn gweddu’n berffaith.”
“Doeddwn i ddim yn disgwyl y newyddion hyn wrth ddod i’r ymarfer y bore yma,” dywedodd Tom Kendall, sef aelod o’r côr plant o Aberystwyth. “Rydw i wedi bod eisiau mynd i Dde Affrica erioed ac rwy’n edrych ymlaen yn arw.”
Datblygodd y syniad o Gôr Canolfan Mileniwm Cymru/Only Kids Aloud yn 2011 pan gydweithredodd Canolfan Mileniwm Cymru â Chyfarwyddwr Cerdd Only Men Aloud, Tim Rhys Evans, i ffurfio côr o blant a phobl ifanc dalentog o bob cwr o Gymru. Y bwriad oedd i'r côr ganu mewn un perfformiad o The Symphony of a Thousand Voices, sef Symffoni Rhif 8 Mahler, ar Lwyfan Donald Gordon o flaen un o'r arweinwyr amlycaf yn y byd heddiw, Maestro Valery Gergiev a'i gwmni Opera Mariinsky byd-enwog o St Petersburg. Yna cafodd côr 2012 wahoddiad gan Maestro Gergiev ei hun i berfformio yn Theatr Mariinsky yn St Petersburg fis Mawrth diwethaf, cyn eu perfformiad yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Ebrill. Yn goron ar y cyfan, cafodd y côr gyfle i ganu yn seremoni agoriadol fythgofiadwy Danny Boyle ar gyfer Gemau Olympaidd Llundain 2012.
Mae cynlluniau cyffrous ar gyfer Corws Canolfan Mileniwm Cymru/Only Kids Aloud yn dilyn pedwar diwrnod o ymarferion ysgol haf wrthi'n cael eu paratoi a chânt eu cyhoeddi dros y misoedd nesaf.
|
web site: |
e-mail: |
Friday, August 30, 2013 |
|
|
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999