Bydd Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnal dathliadau Mis Hanes Pobl Dduon am y pumed flwyddyn yn olynol ar Hydref 19eg 2013. Ysbrydolwyd y dathliadau hyn gan hanes cerddoriaeth cyfoethog ac amrywiol yr Affricanwyr Alltud, a byddant eleni yn arddangos talent leol a chenedlaethol dros amrywiaeth eang o ffurfiau cerddorol, yn cynnwys cerddoriaeth yr enaid, 'ska', reggae, hip hop ac RnB. Caiff rhaglen lawn o weithdai, seminarau a sgrinio ei chynnal drwy'r dydd, gan ganiatáu i ymwelwyr ganfod mwy am hanes a diwylliant yr Affricanwyr Alltud.
Wrth agor y perfformiadau ar lwyfan Glanfa, bydd Wonderbass yn cynnwys Claude Deppa, yn chwarae eu rhythmau amrywiol, a chymysgedd drawiadol o gerddoriaeth yr enaid, ffync, 'ska', cerddoriaeth Ladin a jazz. Bydd côr lleisiol trefol y Ganolfan, Hard Côr yn cyflwyno eu cymysgedd nodedig o gerddoriaeth gorawl draddodiadol a hip hop; a bydd ensemble mwyaf adnabyddus Prydain Isicathamiya (capella) a oedd yn rhan o hysbyseb deledu Rice Kripsies yn ymuno â Chôr Meibion De Affrica ar y llwyfan. I orffen, bydd Soweto Kinch yn perfformio 'The Legend of Mike Smith', hanes em-sî ifanc yn cael ei ddal ym myd modern temtasiwn.
I ddiddanu'r plant, bydd Canolfan y Gymuned Affricanaidd yn cynnal bore llawn gweithgareddau celf a chrefft Affricanaidd a Charibïaidd. Cewch ddawnsio a llamu wrth i chi ddysgu chwarae'r drwm dur mewn gweithdy ar ffurf carnifal. Neu i'r rhai sydd eisiau ehangu eu gwybodaeth, bydd seminar Rhythm y Diaspora yn trafod cerddoriaeth yn deillio o Affrica, tra bydd seminar Hanes Pobl Dduon yn trafod bob math o bynciau, o addysg amlddiwylliannol yn y cwricwlwm presennol i syndrom caethwasiaeth wedi trawma.
Bydd bwydlen Garibïaidd draddodiadol, wedi ei llunio'n arbennig ar gyfer y dathliad, hefyd ar gael ym mar ffresh.
Dywedodd y Swyddog Cynnwys Cymunedol, Hannah Wynn Jones: 'Rydym wrth ein boddau i gynnal Dathliad Arddangos Mis Hanes Pobl Dduon unwaith eto, fydd yn nodi pumed flwyddyn y bartneriaeth sy'n cryfhau'n barhaus rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Pwyllgor Llywio Mis Hanes Pobl Dduon Cymru. Mae'r arddangosiad hwn yn siŵr o fod yn ddigwyddiad ysbrydoledig a difyr - gwir ddathliad o gerddoriaeth amrywiol yr Affricanwyr Alltud yng Nghymru'.
Y diwrnod dathlu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yw uchafbwynt Mis Hanes Pobl Dduon Cymru sydd bob blwyddyn yn ceisio cydnabod cyfraniad yr Affricanwyr Alltud i hanes lleol, cenedlaethol a byd-eang trwy raglen addysgiadol, llawn gwybodaeth a dathlu. Mae gwreiddiau Mis Hanes Pobl Dduon yn dyddio nôl i 1926 pan sefydlwyd dathliad o ddiwylliant Affricanaidd-Caribiaidd gan Carter G Woodson yn America. Gwelir olion gweithgareddau cyntaf Cymru i ddathlu'r Mis Hanes Pobl Dduon cyntaf yn 1973, pan drefnodd Betty Campbell MBE deithiau, gwasanaethau dosbarth, a gweithdai yn ardal Trebiwt, Caerdydd.
AMSERLEN
Rhaglen Glanfa:
Wonderbrass gyda Claude Deppa| 12.30pm
Jugarnot Soul, Ffync, Ska, Lladin a Jazz sydd wedi’i gymeradwyo’n rhyngwladol… Pa ffordd well i ddechrau’r dathliadau? Gyda Wonderbrass, cewch ddisgwyl wal o sain (mae 25 ohonyn nhw wedi’r cyfan!) gyda chorwynt enfawr o gyrn a rhythmau sy’n amhosibl i’w gwrthsefyll.
The Next Generation gyda Sound Progression | 1:45pm
Mae stiwdio The Sound Progression ym Mhafiliwn Ieuenctid Tre-biwt. Bob dydd, maen nhw’n cynhyrchu traciau newydd gan y goreuon ymhlith talent newydd addawol Caerdydd sy’n perfformio cymysgedd o hip-hop, RnB, nu-house a soul.
Caneuon Gwerin o Jamaica gyda Tan Teddy | 2.30pm
Dyma i chi gasgliad o bobl Jamaica sydd bellach yn byw ym Mryste ac sydd wedi dod at ei gilydd trwy eu cariad at ddiwylliant gwerin Jamaica; yr angerdd a’r awydd yma sydd wrth galon y grŵp Tan Teddy. Bwriad Tan Teddy yw adfer yr atgofion am ddiwylliant Jamaica yng nghalonnau’r rheiny sy’n byw oddi cartref. Mae eu perfformiadau lliwgar yn cynnwys amrywiaeth fawr o ganeuon gwerin, reggae mewn steil gwerin, kumina, quadrille, barddoniaeth a drama.
Hard Côr | 3.15pm
Mae Hard Côr, sef côr trefol lleisiol y Ganolfan, yn taflu cerddoriaeth draddodiadol gorawl ac elfennau hip hop fel bît-bocsio ac em-sîo i’r pair er mwyn creu sain hollol unigryw.
Rhythmau Reggae gyda Bristol Reggae Orchestra | 4pm
Bristol Reggae Orchestra yw un o brosiectau cymunedol mwyaf ysbrydoledig ac unigryw y DU. Wedi’i ffurfio ar ddechrau 2010, mae’r grŵp yma o 40 cerddor lleol wedi cael enw da yn barod a byddan nhw’n perfformio rhai caneuon gwreiddiol ochr yn ochr â chlasuron y byd reggae a ska.
Afro beat, ffync a hip-hop gyda Afro Cluster | 4.45pm
Bydd y band 8 aelod yma o Gaerdydd yn dod â chymysgedd heintus ac unigryw trawiadol o ffync, afro-beat a hip hop i lwyfan Glanfa. Dyma berfformiad sy’n llawn egni ac sy’n taflu cerddoriaeth ffync, jazz a seiniau Affrica-America cyfoes i’r pair gyda rhythmau mwy traddodiadol o Affrica.
Côr Meibion De Affrica gyda Amabutho | 5.30pm
Wedi’i enwi mewn teyrnged i albwm cyntaf Ladysmith Black Mambazo, Amabutho yw ensemble Isicathamiya (a cappella) mwyaf adnabyddus Prydain. Ar ôl ymddangos mewn hysbyseb genedlaethol i Rice Krispies yn ddiweddar, byddan nhw’n perfformio gyda Chôr Meibion De Affrica.
The Legend of Mike Smith gyda Soweto Kinch | 6.20pm
Gan ddilyn stori Em-sî ifanc sydd wedi’i ddal mewn byd modern o demtasiwn, mae Soweto Kinch yn cyflwyno deunydd newydd yn The Legend of Mike Smith cyn i’w halbwm diweddaraf gael ei ryddhau. Mae’r perfformiad yn defnyddio themâu Dante a’r Saith Pechod Marwol – testun sy’n rhoi cyfle i Kinch edrych ar yr holl emosiynau dynol trwy ffurfiau hip hop a jazz - ac mae’n cynnwys triawd gyda Karl Rasheed Abel yn chwarae’r bas a Shaney Forbes ar y drymiau.
Gweithdai, Seminarau a Dangosiadau:
Dangos Ffilmiau:
Angorfa | Trwy’r Dydd
Dewch i fwynhau amrywiaeth o ffilmiau a rhaglenni dogfennol byrion sydd wedi’u cynhyrchu gan unigolion, grwpiau a sefydliadau elusennol y gymuned leol. Byddan nhw’n cael ei chwarae yn gyson trwy’r dydd.
Seminar Rhythm y Diaspora | Ystafell Victor Salvi | 10am - 12:30pm
Ymunwch â chyfres o sgyrsiau bywiog rhwng panel a chynulleidfa yn trafod cerddoriaeth o wraidd Affricanaidd a’r diffyg cydnabyddiaeth yn y cyfryngau prif ffrwd.
Cerddoriaeth y Diaspora gyda Wahda | Stiwdio Weston | 10am & 11:30am
Dewch i ddysgu sut i chwarae drymiau dur y Caribî gyda Wahda yn y sesiwn bywiog yma sydd wedi’i hysbrydoli gan y carnifal.
Celf a Chrefft y Diaspora gyda Chanolfan Cymunedol Affricanaidd African Community Centre | Room 6 | 10am & 11:30am
Ymunwch â Chanolfan Cymunedol Affricanaidd am fore celf a chrefft i blant wedi’i hysbrydoli gan gelfyddydau’r Caribî ac Affrica
Ystafell Weddïo a Man Tawel | Ystafell Japan | Trwy’r Dydd
Os oes angen ystafell arnoch i weddïo neu dreulio cyfnod bach i ffwrdd o’r cyffro, bydd aelod o’n tîm yn fwy na pharod i’ch tywys i ystafell arbennig.
Chwedleua gyda Llyfrgell Caerdydd | Ystafell Seligman | 10am a 11:30am
Bydd Llyfrgell Caerdydd yn eich tywys ar siwrnai hynod trwy straeon rhyfeddol sy’n llawn dychymyg ac antur, gan ddathlu llyfrgelloedd hyfryd Cymru.
Gwrthrychau a Hanes gyda Chasgliad y Bobl | Bar Awen | 10am & 11:30am
Dewch ag eitemau a straeon eich teulu ac ymunwch â Chasgliad y Bobl am drafodaethau grŵp sy’n eich tywys ar siwrnai i’r gorffennol.
Hanes Pobl Dduon gyda Abu-Bakr Madden Al-Shabazz | Ystafell Sony | 10am a 11:30am
Ymunwch ag Abu-Bakr am sgwrs a chyflwyniad manwl am bynciau fel addysg amlddiwylliannol yn y cwricwlwm presennol a syndrom caethwasiaeth wedi trawma.
|