Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cyhoeddi Cadeirydd newydd     

Cyhoeddi Cadeirydd newydd

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi heddiw (15 Hydref 2013) mai Gwerfyl Pierce Jones yw Cadeirydd newydd Bwrdd Ymddiriedolwyr y cwmni.


Dywedodd Yr Athro Ioan Williams, sydd wedi bod wrth y llyw ers 2008, wrth ymddeol o’r Bwrdd, -
“Rwyf wrth fy modd i adael Theatr Genedlaethol mewn cyflwr mor lewyrchus ar ôl chwech mlynedd diddorol iawn. Rwyf yn dymuno'n dda i'r Cadeirydd newydd ac i'r cwmni ac yn hyderus y bydd y llwyddiant yn parhau.”

Daw Gwerfyl Pierce Jones o Aberystwyth, a bu’n Gyfarwyddwr Cyngor Llyfrau Cymru rhwng 1987 a 2009. Dywedodd ei bod yn ei ystyried yn fraint cael ymgymryd â'r gadeiryddiaeth ar adeg mor gyffrous yn hanes Theatr Genedlaethol Cymru a thalodd deyrnged i'r Athro Ioan Williams am lywio'r cwmni drwy gyfnod o drawsnewid.


“Mae'r cwmni wedi cymryd camau breision dros y ddwy flynedd ddiwethaf,” meddai, “ac mi fyddwn ni fel Bwrdd yn rhoi pob cefnogaeth i Arwel Gruffydd a'i dîm i adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes ac i ddatblygu ymhellach mewn cydweithrediad â'n hamryfal bartneriaid.

“Rwyf am weld y cwmni'n parhau i roi pwyslais ar safon ac arloesi a bydd y pwyslais yn parhau hefyd ar ddenu cynulleidfa newydd o bob rhan o’r gymdeithas yn ogystal â chynnal diddordeb selogion presennol y theatr Gymraeg.”
 
web site
:

e-mail:
Wednesday, October 16, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk