Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news



Pridd     



Pridd

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi mai drama newydd gan Aled Jones Williams yw cynhyrchiad nesaf y cwmni. Mae Pridd yn ddrama ar gyfer un actor ac fe fydd yn mynd ar daith ar draws Cymru yn ystod mis Tachwedd. Ysgrifennwyd y ddrama yn arbennig ar gyfer yr actor Owen Arwyn gan Aled Jones Williams.

Bywyd y diddanwr plant, Handi Al yw canolbwynt y ddrama. Un prynhawn mae’n dychwelyd adref i ddarganfod fod pob dim a’i ben i waered a’r ddodrefn yn troi’n bridd. A feiddiai dynnu ei golur ac ystyried y bywyd mae wedi ei fyw?

Meddai Aled Jones Williams; “Ysgrifennais Pridd fel drama ar gyfer actor. Felly yr actor a’r actio sydd flaenaf, nid y themau. Os oes thema - ac rwyf am bwysleisio’r os - yna drama am hunaniaeth ydyw: a wyddom pwy ydym?; a wyddom beth sy’n digwydd i ni ar hyn o bryd?; a wyddom sut y mae’r pethau hynny yn digwydd?”

Er mwyn deall cymeriad Handi Al mae Owen Arwyn wedi bod yn treulio’i amser yn dysgu triciau clownio ac wedi cael arweiniad gan arbenigwyr yn y maes. Meddai;

“Mae’n bleser gweithio ar ddrama sydd wedi cael ei ysgrifennu ar fy nghyfer gan rhywun dwi’n ei edmygu cymaint ag Aled Jones Williams.  Mae’n ddrama ddiddorol sydd yn cynnig llawer i actor. Dwi wrthi ar hyn o bryd yn dysgu triciau clownio... Sy’n dipyn o her, ond mae’n gymorth i fynd at wraidd y cymeriad.”

Sara Lloyd fydd yn cyfarwyddo’r ddrama. Bu’n gweithio fel cyfarwyddwr cyswllt ar Blodyn ym mis Mehefin eleni, ond dyma’r tro cyntaf iddi arwain ar y cyfarwyddo i Theatr Genedlaethol Cymru.

Bydd y daith yn cychwyn ar y 7fed o Dachwedd, 2013 yng nghartref Theatr Genedlaethl Cymru, Y Llwyfan, Caerfyrddin cyn mynd ar daith i wyth lleoliad gwahanol ar draws Cymru.

Mae’r sioe yn addas ar gyfer oedran 14+.

-diwedd-





Nodiadau i olygyddion:

Noson y wasg
Cynhelir noson y wasg ar nos wener yr 8fed o Dachwedd 2013 yn Y Llwyfan, Caerfyrddin. Bydd y perfformiad yn cychwyn am 19:30 a derbyniad i ddilyn. Am fwy o fanylion, ac i drefnu cyfweliadau, cysylltwch â Lowri Johnston, Uwch Swyddog Marchnata Theatr Genedlaethol Cymru 01267 245617 / lowri@theatr.com


Cast:
Owen Arwyn, fel Handi Al

Awdur: Aled Jones Williams
Cyfarwyddwr: Sara Lloyd
Cynllunydd: Ruth Hall
Cynllunydd Goleuo: Elanor Higgins
Cynllunydd Sain: Dyfan Jones

Dyddiadau’r cynhyrchiad:

06-08 Tachwedd 2013, 19:30
06 Rhagddangosiad
Y Llwyfan, Caerfyrddin
01267 235044

12 Tachwedd 2013, 20:00
13-14 Tachwedd 2013, 13:30 a 20:00
Theatr y Sherman, Caerdydd
029 2064 6900 / shermancymru.co.uk

16 Tachwedd 2013, 19:30
Neuadd John Phillips (Pontio), Bangor
(sgwrs cyn sioe ar gyfer dysgwyr)
01248 382828 / pontio.co.uk

18-19 Tachwedd 2013, 19:30
Galeri, Caernarfon
(Sgwrs ôl sioe 18 Tachwedd)
01286 685222 / galericaernarfon.com

20-21 Tachwedd 2013, 19:30
Neuadd Dwyfor, Pwllheli
01758 704088

23 Tachwedd 2013, 19:30
Morlan, Aberystwyth
01970 617996

26 Tachwedd 2013, 19:30
Canolfan Celfyddydau Pontardawe
(sgwrs cyn sioe ar gyfer dysgwyr)
01792 863722 / nptartsandents.com

27 Tachwedd 2013, 19:30
Theatr y Gromlech, Crymych
(sgwrs cyn sioe ar gyfer dysgwyr)
01239 831455

29 Tachwedd 2013, 19:30
Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
(sgwrs cyn sioe ar gyfer dysgwyr)
01978 315050
 
web site
:

e-mail:
Sunday, November 3, 2013back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk