|
Ffilm Gymraeg a Gymunedol orau i griw ‘Sgin ti Syniad?’
|
Mae Theatr Genedlaethol Cymru a Galeri yn falch iawn o gyhoeddi llwyddiant criw ‘Sgin ti Syniad?’ yng ngwobrau Media4Schools yr wythnos hon (18 Tachwedd 2013). Cafodd y criw eu gwobrwyo am y Ffilm Gymraeg Orau a’r Ffilm Gymunedol Orau ar gyfer ‘Pam?’ mewn seremoni wobrwyo arbennig yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
Roedd ‘Sgin ti Syniad?’ yn gynllun wedi ei ariannu trwy gronfa Cyrraedd y Nod gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Cronfa Gymdeithasol Ewrop a Llywodraeth Cymru. Cynhaliwyd y prosiect mewn cydweithrediad rhwng Theatr Genedlaethol Cymru, Galeri, Partneriaeth pobl Peblig a Sherman Cymu.
Lleoliad y prosiect oedd ardal Caernarfon yn 2012 ac roedd yn brosiect cymunedol i weithio gyda phobl ifanc rhwng 11 ac 19 mlwydd oed. Mae ffilm ‘Pam?’ yn dangos bywyd drwy lygaid pobl ifanc sydd wedi eu magu ar stâd Peblig ac yn edrych ar eu perthynas nhw gydag arian. Fel rhan o’r cynllun, fe wnaeth y grŵp hefyd agor siop ar y maes yng Nghaernarfon o’r enw Y Siop Siarad.
Yn dilyn y prosiect, cafodd criw ‘Sgin ti Syniad?’ eu henwebu ar gyfer gwobrau Media4Schools, a dod o ‘na wedi ennill dwy wobr. Dau o’r rhai fu’n rhan o’r cynllun, Dylan Wyn Owen ac Amy Bohana, oedd yn bresennol yng Nghaerdydd i dderbyn y gwobrau. Meddai Amy am y profiad o wneud y ffilm;
"Nesh i rili enjoio fo i gyd. Yr actio, y ffilmio, y stori, bob dim. Gatho ni lot o hwyl, ac yn falch iawn i ennill y wobr heddiw.”
Ers cymryd rhan yn y prosiect, mae Dylan ac Amy wedi mynd ymlaen i weithio ac i arwain prosiectau eu hunan. Mae Dylan yn gweithio yn y gegin yng ngwesty Pen y Gwryd ac wrth ei fodd yno. Mae Amy yn fam weithgar iawn i Ruby J sy’n ddwy oed, ac wedi mynd ati i ail-gychwyn tîm Majorattes Peblig i roi cyfle i ferched ifanc y stâd gystadlu a theithio.
Bethan Marlow oedd yn arwain y prosiect, gyda Carolina Vasquez a Sarah Bickerton, ac roedd Bethan wrth ei bodd ddoe;
“Dwi just mor falch ohonyn nhw. O'dd gneud y ffilm yn dipyn o daith i fywydau pobol ifanc Peblig a dwi mor ddiolchgar eu bod nhw wedi ymddiried yndda i a Carolina a Sarah gymaint i adael ni mewn. O'dd gweld gwynebau Amy a Dylan heddiw yn anhygoel! Ma' nhw'n unigolion mor gryf a phenderfynnol a dwi'n falch iawn rwan o allu eu galw nhw yn ffrindia'.” |
web site: |
e-mail: |
Thursday, November 21, 2013 |
|
|
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999