Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

DRAMA GYNTAF CWMNI Theatr 1.618 YN TEITHIO CYMRU     

DRAMA GYNTAF CWMNI Theatr 1.618  YN TEITHIO CYMRU Deithiodd drama hir gyntaf cwmni theatr 1.618 ,The Utah Bride, De Cymru yn ystod mis Tachwedd 2012. Cafwyd derbyniad gwresog gan gynulleidfaoedd o bob oed, ac fe enwebwyd Sharon Morgan am yr actores orau mewn cynhyrchiad Saesneg gan Y Beirniaid Ifanc. Y bwriad nawr yw ei theithio yn y ddwy iaith ym mis Chwefror 2014, yn dilyn wythnos o berfformiadau yn Chapter..
'Bob nos wi'n breuddwydio bo fi'n rhedeg. Wi'n rhedeg bant achos bo fi ar goll.'


Mae Alice yn byw mewn pentre lle d'oes dim byd yn digwydd. Mae'r pyllau glo wedi cau a mae'n 1990 yng Nghwmgarw. Mae hi wedi ei hamgylchynu gan ddiweithdra ac mae hi'n cwestiynu ei dyfodol. Mae hi'n breuddwydio am rhywbeth arall.....

Mae'r ddrama hon yn adrodd hanes Alice, un ar bymtheg oed, sy'n herio ei magwraeth Methodistaidd trwy rhedeg i ffwrdd i 'fyw'r freuddwyd' yn America, gan briodi cenhadwr Mormonaidd. Pedair blynedd yn ddiweddarach mae'n dod nol adre.

Mae'r ddrama'n digwydd ar y noson ddirdynnol honno o ddatguddio cyffesu a gwellhad, wrth i fam a merch rhanedig geisio dod i delerau a'i gorffenol.


 Dyddiadau Taith 2014




Canolfan y Celfydddydau Chapter Caerdydd 29ain Ionawr-1af Chwefror



Theatr Y Gromlech Mercher 5ed Chwefror


Neuadd y Glowyr Rhydaman Iau 6ed Chwefror


Theatr Y Lyric Caerfyrddin Gwener 7ed Chwefror


Theatr Y Farchnad Y Bontfaen Sadwrn 8ed Chwefror


Galeri Caernarfon Mawrth 11eg Chwefror


Neuadd Dwyfor Pwllheli Mercher 12ed Chwefror


Y Neuadd Les Ystradgynlais Sadwrn 15ed Chwefror 

 
web site
:

e-mail:
Thursday, January 30, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk