|
Diwrnod Rhwydweithio ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol yn y Celfyddydau sy’n Gweithio gyda Phobl Ifanc |
Cyfle i archwilio’r potensial ar gyfer Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid sy’n cysylltu darparwyr ac ymarferwyr celfyddydau ieuenctid ar draws Cymru. Pryd: Dydd Sul 2 Mawrth 2014 (10am – 4pm) Lle: Theatr Felinfach Cost: *AM DDIM* Darperir cinio Bydd y diwrnod yn cynnwys: • gweithgareddau ymarferol i rannu sgiliau, dan arweiniad cyd-ymarferwyr; • cyflwyno meysydd ar gyfer trafodaeth*; • cyfleoedd am drafodaeth a syniadau newydd; • crynodeb a ‘camau nesaf’. *Mae’r meysydd i’w trafod yn cynnwys: • Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid Cymru Gyfan – rhesymeg, ar gyfer pwy, sut • rhannu sgiliau a fframweithiau cefnogi ar gyfer ymarferwyr • cynnwys lleisiau a syniadau pobl ifanc – diweddaru ac ehangu’r Rhwydwaith Diddordeb? Cofrestrwch eich bwriad i fynychu drwy e-bostio nyaw@nyaw.co.uk a rhoi Rhwydwaith Celfyddydau Ieuenctid yn y llinell pwnc, gan nodi (i) rhif ffon cysylltu , a (ii) a fyddech yn fodlon arwain sesiwn rhannu sgiliau. 
Nifer cyfyngedig o lefydd sydd ar gael a byddant yn cael eu dyrannu yn nhrefn y cyntaf i’r felin. Dyddiad Cau: 27 Chwefror 2014. Byddwch yn rhan o’r cam cyntaf hwn i greu rhwydwaith sy’n cefnogi a datblygu’r Sector, a’n gwaith gyda phobl ifanc! |
| web site: |
| e-mail: nyaw@nyaw.co.uk |
| Tuesday, February 18, 2014 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999
