|
Y Gêm....
|
Dewch i weld penllanw Marathon Deud dy Ddeud a gynhelir yn ystod yr wythnos Gorffennaf 22-25 pan fydd criw o bobl ifanc blwyddyn 6+ yn dod at ei gilydd i gyd-greu perfformiad hefo ymarferwyr proffesiynol o Gwmni Cofis Bach (cerddorion, actorion, dawnswraig) yn ogystal ag artist preswyl Segontiwm, Manon Awst.
O dan arweiniad y cyfarwyddydd, Siwan Llynor, penllanw'r 4 diwrnod o greu hefo aelodau Cofis Mawr fydd perfformiad awyr agored yn Segontiwm ar nos Wener, Gorffennaf 25. Drwy gerddoriaeth, dawns a 'deud eu deud' bydd pobl ifanc Peblig yn dod a bywyd newydd i Segontiwm drwy archwilio sut mae cyfathrebu'n effeithiol i lwyddo yn Y Gêm.
Cwmni Cofis Bach yn perfformio Y Gêm
yn Nghaer Rufeinig Segontiwm, Caernarfon - 25ain o Orffennaf
(Hyd y perfformiad oddeutu 40 munud)
Perfformiad am 6 o'r gloch.
|
web site: |
e-mail: |
Wednesday, July 23, 2014 |
|
|
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999