Heddiw (28 Gorffennaf 2014), mae’n bleser gan Theatr Genedlaethol Cymru, mewn partneriaeth â Pontio â Chwmni’r Frân Wen, gyhoeddi cast proffesiynol Chwalfa. Bydd 13 aelod i gast proffesiynol Chwalfa, cynhyrchiad agoriadol Theatr Bryn Terfel yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi newydd Pontio ym Mangor.
Mae’r rhestr enwau o actorion yn cynnwys wynebau cyfarwydd Richard Elfyn, Dyfrig Evans, Morfudd Hughes, Emyr Himyrs Roberts, Robin Griffith a Gwenno Hodgkins. Bydd Ceri Murphy, sydd ar hyn o bryd yn chwarae rhan Trevor Beasley yn Dyled Eileen gyda Theatr Genedlaethol Cymru, yn ymuno â’r cast, yn ogystal â rhai o actorion adnabyddus y gyfres deledu boblogaidd Rownd a Rownd. Mae’r cast hefyd yn cynnwys Lisa Jên Brown - cantores y band poblogaidd 9Bach, sy’n un o blant yr ardal.
Meddai Lisa Jên Brown;
“Dwi di mopio mod i'n rhan o gast Chwalfa. Mae’n fraint i fod yn rhan o’r cynhyrchiad cyntaf ar lwyfan Theatr Bryn Terfel yng Nghanolfan Pontio; yn enwedig gan mod i yn un o'r cast yn un o'r cynhyrchiadau olaf i Theatr Genedlaethol Cymru berfformio yn Theatr Gwynedd, sef Siwan.
Mae’r stori sydd yn gefn i Chwalfa hefyd yn un sy’n agos iawn at fy nghalon, ac fel un sydd yn wreiddiol o Fethesda, yn amlwg mae hanes y streic wedi gwreiddio’n ddwfn yndda i a gweddill y gymuned. Dwi wedi tyfu fyny yn edrych ar Y Fronllwyd a'r Chwaral yn llenwi pob ffenast o'r tŷ, a dwi wedi dewis sgwennu a canu am y chwaral a'r gymuned gyda'r band 9Bach, felly ma'n rhywbeth sydd yndda i, wedi naddu yn fy esgyrn i, fel hen lechan. Dwi methu disgwyl i gael bod yn rhan o'r cynhyrchiad yma!”
Addasiad Gareth Miles o nofel T Rowland Hughes yw’r cynhyrchiad hwn o Chwalfa, ac mae’r cyfan yn seiliedig ar hanes Streic Fawr y Penrhyn yn Nyffryn Ogwen a barodd am dair mlynedd hir rhwng 1900 a 1903. Fe fydd y cynhyrchiad yn cynnwys actorion proffesiynol ac aelodau o’r gymuned leol. Bydd hyd at 50 o’r gymuned leol yn rhan o’r cast cymunedol, fydd yn cynnwys ensemble o actorion, corws a cherddorion, ac fe fydd rhain yn ymuno â’r cast proffesiynol ar y llwyfan.
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru a chyfarwyddwr Chwalfa;
“Mae cael creu’r digwyddiad cyntaf erioed i’w lwyfannu yn Theatr Bryn Terfel yn fraint arthuthrol, ac yn gyfle unigryw i greu digwyddiad y bydd pobl yn ei gofio, gobeithio, am amser maith i ddod. Mae’n bleser heddiw cael cyhoeddi’r cast proffesiynol, ac rwy’n hyderus bod gennym gast cryf i weithio ochr yn ochr â’r cast cymunedol i lwyfannu’r stori bwysig hon. Mae ymarferion y cast cymunedol eisioes wedi cychwyn ac fe fydd y cast proffesiynol yn cychwyn arni yn yr wythnosau nesaf.”
Mae’r cast cymunedol wrthi yn ymarfer yn Festri Capel Jerusalem ym Methesda. Bydd y cast proffesiynol yn cychwyn ymarferion ar yr 11eg o Awst ym Mangor. Ceir rhestr lawn o’r cast proffesiynol isod:
Lisa Jên Brown
Robin Ceiriog
Richard Elfyn
Dyfrig Evans
Tudur Evans
Sion Emyr
Robin Griffith
Gwenno Hodgkins
Morfudd Hughes
Lois Meleri-Jones
Ceri Murphy
Emyr Himrys Roberts
Owen Puw Williams
Meddai Cyfarwyddwr Artistig Pontio, Elen ap Robert:
“Fe fydd tymor agoriadol Pontio yn dathlu themâu 'lle-chi'. O 'Chwalfa' i'r Gala agoriadol ynghyd â 'Mae yna le', agoriad cymunedol – rydym eisiau I chi wybod mai Pontio yw lle chi. Fe fydd 9Bach yn cydlynu noson o gerddoriaeth 'Lle-chi' ym mis Hydref, felly rwy'n hynod o falch fod Lisa Jên yn perfformio gyda Chwalfa hefyd. Llongyfarchiadau i'r holl gast wrth iddynt ddechrau'r ymarferiadau – fedrwn ni ddim aros i'ch gweld ar lwyfan newydd Theatr Bryn Terfel!'
|