Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

The Frozen Scream - a gyd-ysgrifennwyd gan y nofelydd Sarah Waters     

The Frozen Scream - a gyd-ysgrifennwyd gan y nofelydd Sarah Waters



Fel gwaith ar y cyd gan y nofelydd poblogaidd o Gymru Sarah Waters a'r perfformiwr ac awdur Christopher Green sydd wedi ennill gwobr Oliver, bydd The Frozen Scream, sy'n seiliedig ar nofel dirgelwch llofruddiaeth anadnabyddus, yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym mis Rhagfyr (11 - 20 Rhagfyr 2014). Mae The Frozen Scream, sy'n dod â'r stori arswydus yn fyw unwaith eto ar gyfer y llwyfan, yn addo cynnig rhywbeth unigryw y tymor hwn.

Mae The Frozen Scream, sydd wedi'i chyfarwyddo gan Christopher Green, a fydd hefyd yn perfformio yn y sioe, yn adrodd stori grŵp o ffrindiau sy'n sownd mewn caban gwag yng nghanol y gaeaf. Wrth geisio difyrru eu hunain gyda stori Jack Frost, mae arswyd ffug yn troi'n arswyd go iawn wrth i ddigwyddiadau ddatblygu mewn ffyrdd annisgwyl. Aeth y nofel wreiddiol, a ysgrifennwyd gan y nofelydd CC Gilbert a'i chyhoeddi ym 1928, yn amhoblogaidd pan ddechreuodd pobl gredu bod y nofel dan felltith yn dilyn cyfres o farwolaethau anesboniadwy.

Mae'r cydweithrediad creadigol hwn rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Birmingham Hippodrome yn ffrwyth awydd cyffredin i gynnig ffurf wahanol o adloniant Nadoligaidd. Ym mis Gorffennaf, mae'r ddau leoliad hefyd wedi cydweithio ar gyflwyniad Show Boat Canolfan Mileniwm Cymru a Cape Town Opera ar ei thaith o gwmpas y DU.

Gyda Chaerdydd a Birmingham yn bwriadu cyflwyno rhaglen gynhwysfawr o sioeau i'r teulu, sioeau cerdd a phantomeimiau'r gaeaf hwn, bydd The Frozen Scream yn cynnig dewis arall cyffrous ar gyfer cynulleidfaoedd lleol.

Bydd The Frozen Scream yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf yng Nghanolfan Mileniwm Cymru (11 - 20 Rhag 2014), ac wedyn yn Birmingham Hippodrome (7-10 & 13-17 Ion 2015).

The Frozen Scream yw'r ddrama gyntaf gan y nofelydd o Sir Benfro Sarah Waters, sydd wedi'i chanmol am ei nofelau gwobredig gan gynnwys Tipping the Velvet (1998), Fingersmith (2002), a The Little Stranger (2009). Disgwylir i'w nofel ddiweddaraf, The Paying Guests, gael ei chyhoeddi yr hydref hwn.

Dywedodd Christopher Green, cyd-awdur a chyfarwyddwr The Frozen Scream: ''Pan ddechreuais feddwl am y sioe, byddai fy syniadau bob tro yn fy atgoffa o lyfr Sarah, The Litte Stranger. Ar ôl bod yn hoff iawn o waith Sarah ers darllen Tipping the Velvet, roeddwn yn awyddus iawn i gydweithio â hi. Er bod hyn yn teimlo fel ffordd hollol newydd o weithio i'r ddau ohonom, mae'n hynod pa mor ddidrafferth mae'r broses greadigol wedi bod hyd yn hyn. Cyn belled â bod y felltith ddim yn ein lladd, dylem fod yn iawn, dybiwn i. Rwyf wrth fy modd yn synnu fy nghynulleidfaoedd a bydd The Frozen Scream yn sicr o wneud hynny, gan beri'r hen iasoer yna i lawr asgwrn cefn pobl!'

Ac yntau'n berfformiwr ac yn awdur sydd wedi ennill gwobrau, mae Christopher Green wedi creu nifer o sioeau theatr arbrofol gan gynnwys Office Party, VIP, The Razzle a This Show Has No Name. Mae hefyd yn adnabyddus fel comedïwr cymeriad, gan chwarae o dan nifer o bersonâu gan gynnwys cantores caneuon gwlad Tina C, a'r pensiynwr sy'n rapio, Ida Barr.

Dywedodd Sarah Waters, cyd-awdures The Frozen Scream: 'Mae cydweithio â Chris wedi bod yn wych - yn ysbrydoledig iawn - ac mae cydweithio â rhywun wedi bod yn hynod o gynhyrchiol. Doeddwn i ddim yn siŵr sut y byddwn yn cymryd at ysgrifennu ar gyfer y llwyfan. Rwyf yn mynd i'r theatr yn aml iawn, ond mae dramâu a nofelau yn bethau gwahanol: roedd gweithio ar The Frozen Scream yn gam i'r tywyllwch i fi. Ond mae wedi bod yn antur, ac yn gymaint o hwyl. Rwyf wrth fy modd yn gweithio mewn cyfrwng newydd, gydag awdur a pherfformiwr mor dalentog â Chris. Rwyf yn edrych ymlaen at godi ofn ar y gynulleidfa, a chreu ychydig o hwyl. Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at weithio yn fy ngwlad enedigol, Cymru.'

Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru: 'Mae perfformio'r sioe unigryw hon, wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan artistiaid o safon ryngwladol, am y tro cyntaf a'r ffaith ein bod yn gallu cynnig ffurf arall ar adloniant Nadoligaidd ar gyfer ein cynulleidfaoedd yn gyffrous. Rwyf yn credu bod llawer o synergedd rhwng Canolfan Mileniwm Cymru a Birmingham Hippodrome, ac rwyf yn gobeithio y bydd y cydweithio presennol yn helpu i feithrin partneriaeth greadigol a fydd yn gweld llawer mwy o gydweithrediadau cyffrous.'

Ychwanegodd Paul Kaynes, Cyfarwyddwr Rhaglenni Creadigol Birmingham Hippodrome: 'Rydym wrth ein bodd yn cydweithio â Chanolfan Mileniwm Cymru ar y comisiwn ar y cyd hwn gan ddod â dau awdur o'r radd flaenaf at ei gilydd i greu The Frozen Scream. Mae Christopher Green - sydd yn barod yn cyflwyno Ida Barr's Mash Up yn ein Summer in Southside sydd i ddod - a'r nofelydd Sara Waters yn gyfuniad hynod o gyffrous a chreadigol gan ddarparu noson allan wahanol yn y theatr dros dymor y Nadolig'.

The Frozen Scream yw'r cydweithrediad cyntaf rhwng Waters a Green.

Bydd The Frozen Scream yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng Dydd Iau 11 - Dydd Mawrth 20 Rhagfyr 2015. Pris tocyn yw £16. Canllaw oedran: 16+. I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu tocynnau, ewch i www.wmc.org.uk neu ffoniwch 029 2063 6464.

Bydd The Frozen Scream yn Birmingham Hippodrome rhwng Dydd Mercher 7 - Dydd Sadwrn 17 Ionawr 2015. Prisiau'r tocynnau yw £15.00-£18.50 ac ar gael ar-lein www.birminghamhippodrome.com neu ffoniwch 0844 338 5000.
wales millennium centre  
web site
:

e-mail:
Friday, August 1, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk