Yn dilyn cyfnod dwys iawn o waith adeiladu dros y misoedd diwethaf, yn anffodus mae Prifysgol Bangor yn gorfod cyhoeddi na fydd Theatr Bryn Terfel wedi ei chwblhau mewn pryd ar gyfer cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru, ‘Chwalfa’ ym mis Medi.
Bydd cynhyrchiad ‘Chwalfa’ rwan yn cael ei gynnal yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd yr Athro Jerry Hunter, cadeirydd Bwrdd Ymgynhorol Celfyddydol Pontio Dirprwy Is-ganghellor Prifysgol Bangor:
“Rydym yn ymddiheuro yn daer i’n cynulleidfa, y gymuned leol, ein partneriaid, ac yn arbennig Theatr Genedlaethol Cymru ac rydym yn rhannu’r siom.
“Rydym wedi bod yn gweithio’n galed gyda’r contractwr dros y chwe mis diwethaf, mae’r amserlen wedi bod yn dynn, ond roeddem yn credu fod modd agor ar amser. Fodd bynnag heddiw rydym wedi penderfynu na fydd hi’n bosib i ni agor gyda ‘Chwalfa’ fel a obeithiwyd.
Rydym ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad manwl gyda’r contractwr, Miller, er mwyn llunio amserlen ddiwygiedig ar gyfer yr agoriad. Bydd Pontio, Canolfan Celfyddydau ac Arloesi y Brifysgol yn agor mewn rhannau gyda’r theatr yn agor gyntaf.
“Byddwn yn cyhoeddi dyddiadau newydd ar gyfer Chwalfa ar ddiwedd y mis. Bydd pawb sydd wedi prynu tocyn yn cael eu trosglwyddo i’r perfformiad cyfatebol yn y flwyddyn newydd, neu yn cael y dewis o dderbyn ad-daliad llawn. Yn ogystal, i wneud yn iawn am yr anhwylustod, bydd cwsmeriaid yn cael taleb anrheg gwerth £5 i’w ddefnyddio ar gyfer perfformiadau eraill yn y Theatr. Bydd staff swyddfa docynnau Pontio yn cysylltu â chwsmeriaid yn uniongyrchol.
“Hoffem ddiolch i Theatr Genedlaethol Cymru am eu cydweithrediad sy’n golygu y gallwn lwyfannu’r cynhyrchiad arbennig hwn yn y flwyddyn newydd.
“Bydd y trafodaethau manwl gyda’r contractwr yn cymryd peth amser. Dim ond ar ôl i’r trafodaethau hyn gael eu cwblhau y byddwn yn cadarnhau y dyddiad agor newydd.
“Bydd gwersi i’w dysgu o hyn, ond ein blaenoriaeth ar hyn o bryd yw gweithio gyda’r contractwr i gwblhau yr adeilad, a darparu rhaglen gelfyddydol agoriadol o ansawdd uchel. Cyn gynted ag y bydd gennym raglen ddiwygiedig byddwn yn gwneud cyhoeddiad pellach.”
_________________
Datganiad: Theatr Genedlaethol Cymru
3 Medi 2014
Rydym yn siomedig iawn i ddeall heddiw na fydd Theatr Bryn Terfel, yng Nghanolfan Pontio, wedi’i chwblhau mewn pryd i ni gael llwyfannu Chwalfa y mis hwn.
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru, a Chyfarwyddwr Chwalfa;
“Rhan ganolog o weledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru yw gweithio gyda chymunedau i greu darn o waith theatr pwerus, pwrpasol. Mae yna fisoedd o waith paratoi wedi digwydd yn barod, a nifer ohonom, yn artistiaid a gweithwyr theatr proffesiynol yn ogystal â thrigolion yr ardal, wedi gweithio’n ddiwyd ac ymroddedig i greu cynhyrchiad eithriadol. Hoffwn ddiolch ar ran y cwmni i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r fenter am eu brwdfrydedd, a’r croeso rydym wedi ei dderbyn. Mae’r bwrlwm a’r disgwyliad yn yr ardal wedi bod yn amlwg iawn, ac mae’n siom fawr i ni na fyddwn yn llwyfannu’r cynhyrchiad yn hwyrach y mis hwn; ond rwy’n falch iawn ein bod yn gallu dod yn ôl i roi’r cynhyrchiad ar lwyfan Theatr Bryn Terfel yn y Flwyddyn Newydd. Yr hyn sydd yn bwysig i ni yw bod y stori arbennig hon, a’r gwaith caled hwn yn cael gweld golau dydd.”
Bydd Pontio yn cysylltu â phawb sydd wedi archebu tocyn ar gyfer Chwalfa. |