Yn mis Hydref eleni bydd detholiad o Pridd gan Theatr Genedlaethol Cymru yn cael ei berfformio fel rhan o ŵyl theatr ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd yn Bautzen, yr Almaen, o’r enw Odyssee. Dyma’r tro cyntaf i’r ŵyl gael ei chynnal ac fe fydd Theatr Genedlaethol Cymru yn ymuno â chwmnïau theatr amrywiol ar draws Ewrop i arddangos eu gwaith, ynghyd â chydweithio i archwilio posibiliadau o sefydlu’r ŵyl hon fel gŵyl barhaol, ac i greu cywaith theatraidd i’r dyfodol a fydd yn dod â phrofiadau lleiafrifol brodorol Ewropeaidd ynghyd.
Fe fu Pridd, gan Aled Jones Williams, ar daith o amgylch Cymru yn ystod 2013, ac fe ysgrifennwyd y ddrama yn arbennig ar gyfer yr actor Owen Arwyn, sydd yn chwarae’r prif ran, Handi Al. Sara Lloyd, Cyfarwyddwr Cyswllt y cwmni, sydd yn cyfarwyddo’r darn, a fydd yn rhan o noson o berfformiadau gan y cwmnïau gwahanol sy’n ymwêld â’r ŵyl.
Bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cynnig y defnydd cyhoeddus cyntaf o Sibrwd yn ystod y perfformiad, a fydd yn golygu y bydd talfyriad sain ar y pryd ar gael i’r gynulleidfa o’r ddrama mewn tair iaith; Saesneg, Almaeneg a’r Sorbeg. Mae’r Sorbeg yn iaith frodorol leiafrifol sy’n cael ei siarad yn Lusasia yn nwyrain yr Almaen, ac mae’r ŵyl yn cael ei chynnal gan gwmni theatr Almaeneg-Sorbeg o’r enw’r Volkstheater, sydd a’i gartref ym mhrif ddinas y dalaith, Bautzen.
Dyma’r tro cyntaf i gynulleidfaoedd yn unrhyw le gael y cyfle i ddefnyddio’r app Sibrwd sydd wedi ei ddatblygu ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Galactig. Mae’n syniad arloesol sydd yn rhoi’r cyfle i gynulleidfaoedd fwynhau perfformiadau mewn unrhyw iaith. Mae Sibrwd wedi ei ddatblygu gyda chymorth y Gronfa Ymchwil a Datblygu Digidol i’r Celfyddydau yng Nghymru - Nesta, Cyngor Celfyddydau a’r Dyniaethau a chyllid cyhoeddus gan y Loteri Genedlaethol trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.
Yr unig beth fydd angen i’r gynulleidfa ei wneud yw lawr-lwytho’r app, gwisgo clustffonau, ac fe fydd yr app yn sibrwd pytiau yn iaith ddewisedig yr aelod o’r gynulleidfa, er mwyn dilyn yr hyn sy’n digwydd ar y llwyfan.
Wedi ei greu yn bennaf i roi mynediad ac i gyfoethogi profiad dysgwyr a’r di-gymraeg i waith Theatr Genedlaethol Cymru, mae gan Sibrwd y potensial hefyd i fod o ddefnydd rhyngwladol, drwy gynnig mynediad i berfformiadau a phrosiectau mewn unrhyw iaith.
Meddai Arwel Gruffydd, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru;
“Mae’r ŵyl yma’n gyfle arbennig i ni fel cwmni arddangos ein gwaith ar lwyfan rhyngwladol, ac i ni gael cyfarfod cwmnïau eraill sydd hefyd yn gweithio mewn ieithoedd lleiafrifol Ewropeaidd er mwyn trafod syniadau a rhannu profiadau. Mae’r ffaith ein bod ni hefyd yn gallu manteisio ar y cyfle hwn i gynnig Sibrwd am y tro cyntaf i gynulleidfa ryngwladol yn hynod gyffrous, a hynny wedi blwyddyn ddifyr a chynhyrchiol o ddatblygu’r platfform digidol arloesol hwn. Rydym ni’n edrych ymlaen at ei ddefnyddio yn y dyfodol agos mewn perthynas â rhai o’n cynyrchiadau nôl adref yng Nghymru hefyd.”
Bydd Theatr Genedlaethol Cymru yn cymryd rhan yng Ngŵyl Odyssee rhwng y 23ain a’r 26ain o Hydref, gyda Pridd yn cael ei pherfformio yno ar y noson agoriadol.
|