Wrth i Gymru ddathlu pen-blwydd Dylan Thomas yn 100 oed, mewn theatr yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth, mae tri actor ifanc ac un gyfarwyddwraig fywiog yn brysur yn ymarfer ‘Innocent as Strawberries’ - cynhyrchiad newydd a chyfoes yn seiliedig ar waith Dylan Thomas
Mae cefndir y prosiect yn deillio nôl i 2013, pan dderbyniodd Cwmni Theatr Arad Goch wahoddiad gan y Llyfrgell Genedlaethol, i gynhyrchu perfformiad Saesneg yn seiliedig ar waith Dylan Thomas. Y nod oedd cynhyrchu perfformiad cyfoes fyddai’n dod a gwaith y bardd enwog yn fyw i’r genhedlaeth ifanc, mewn perfformiadau yn y Llyfrgell ac mewn ysgolion uwchradd.
“Rydw i wrth fy modd bod Arad Goch yn cydweithio â'r Llyfrgell Genedlaethol unwaith eto, dyma sefydliad diwylliannol pwysicaf Cymru” medd Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch.
Yr un sydd wedi derbyn yr her o ddatblygu’r sgript yw’r gyfarwyddwraig Angharad Lee. Wedi cydweithio ag Arad Goch i greu perfformiadau i bobl ifanc yn y gorffennol, mae’n cyfaddau bod creu sgript gyfoes yn seiliedig ar waith Dylan Thomas yn dipyn o her;
“Er mwyn dal sylw’r bobl ifanc rydw i wedi seilio’r cyfan ar Sydney, Dan a George, tri chymeriad o’r gyfres ‘The Portrait of an Artist as a Young Dog’. Yn fy marn i mae’r cymeriadau a’r straeon yma yn cynnig cyfle inni ddatblygu gwaith cyfoes a chwareus a fydd, gobeithio, yn tanio dychymyg y gynulleidfa ifanc, ac yn caniatau iddyn nhw werthfawrogi gwaith y bardd mewn dehongliad ffres a hwyliog”
Tri actor ifanc o dde Cymru sy’n cymeryd rhan yn Innocent as Strawberries; Chris Hoskins, Jack Quick a Morgan Thomas. Mae’n amlwg bod y tri wedi cael llawer o hwyl wrth ddatblygu’r cymeriadau yn ystod yr wythnos gyntaf o ymarferion;
“Ryden ni wedi bod yn chaware a gwneud llawer o waith ymarferol er mwyn datblygu’r tri chymeriad. Sydney yw fy nghymeriad i, ac erbyn hyn mae’n amlwg mai fe yw’r cymeriad mwyaf cŵl a’r un sy’n cael sylw’r merched i gyd. Bydd y gynulleidfa yn siwr o chwerthin lot achos mae’n dipyn o ‘Jack the Lad” Chris Hoskins
“Mae Dan yn addoli Sydney! Os yw Syndney’n gofyn iddo neidio oddiar wal neu wneud drygioi, mae’n ceisio’i orau i blesio. Mae’n gwneud llawer o bethau twp...galla i uniaethu llawer gyda’r cymeriad! ” Jack Quick
“Fi sy’n chwarae rhan George, mae o’n dipyn o Geek, ac mae’n fachgen creadigol sy’n hoff iawn o ysgrifennu a barddoni. Mae Sydney a Dan yn gwneud sbort ar ei ben o hyd ond fel actor dwi’n hoff iawn ohonno, mae’n gymeriad mwy dwys sy’n dod â chyfleoedd a naratif gwahanol i’r ddrama” Morgan Thomas
Diolch i nawdd cronfa Dylan Thomas 100, bydd Innocent as Strawberries yn cael ei berfformio yn Oriel Gregynog, Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng y 10fed a’r 14eg o Dachwedd, cyn teithio i ysgolion uwchradd yng Ngheredigion, Sir Benfro a Sir Gâr nes y 5ed o Ragfyr.
“Mae’n bleser cydweithio gydag Arad Goch i gyflwyno ail ddehongliad cyfoes o waith Dylan Thomas i bobl ifanc. Bydd y gynulleidfa sy’n gwylio’r ddrama yma yn y Llyfrgell yn cael profiad arbennig iawn, oherwydd bydd yr Oriel ei hun yn llawn o ddenyddiau gwreiddiol y bardd, gan gynnwys y copi gwreiddiol o Portrait of the Young Artist as a Dog. ...Dim ond canran o’n deunydd sydd i'w weld yn yr arddangosfa wrth gwrs, mae yna gannoedd o eitemau eraill gennym ar gadw'n ddiogel ar gyfer y genedl"
Elwyn Williams, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Wrth i’r ail wythnos o ymarferion ddechrau, mae’r gyfarwyddwraig Angharad Lee yn edrych ymlaen at groesawu’r gynulleidfa i’r Llyfrgell;
“Rydw i’n caru llyfrgelloedd, mae nhw’n llawn trysorau, a dwi’n sicir y bydd y bobl ifanc a’r cast wedi eu hudo pan fyddan nhw’n sefyll gerllaw’r gwaith gwreiddiol gan un o iconau y genedl” |