Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

SÊR Y LLWYFAN A'R SGRIN YN DOD YNGHYD I DDATHLU RÔL CANOLFAN MILENIWM CYMRU YN EHANGU GORWELION     

SÊR Y LLWYFAN A'R SGRIN YN DOD YNGHYD I DDATHLU RÔL CANOLFAN MILENIWM CYMRU YN EHANGU GORWELION
Ar ddiwrnod cyhoeddi Canolfan Mileniwm Cymru yn Drysor Cenedlaethol Cymru mewn arolwg a gynhaliwyd gan y Loteri Genedlaethol i ganfod y prosiect mwyaf poblogaidd a ariennir gan y Loteri, mae fideo newydd wedi'i rhyddhau yn tynnu sylw at yr holl waith a wneir gan y Ganolfan ar y llwyfan ac oddi ar y llwyfan.

Er mwyn gwella ymwybyddiaeth o'r holl bethau a wna'r Ganolfan, y tu hwnt i gyflwyno sioeau llwyddiannus, yn ystod blwyddyn ei 10 mlwyddiant, mae'r tîm wedi troi at JM Creative, asiantaeth yng Nghaerdydd, i gynhyrchu ffilm fer arloesol o'r enw What has Wales Millennium Centre ever done for us? Mae'n ffilm arloesol, ac mae cydweithwyr yn y sector elusennol eisoes wedi cydnabod ei bod yn drawiadol iawn.


Caiff JM Creative, sy'n gwmni hynod lwyddiannus, ei redeg gan John Morgan (gynt o'r BBC) a Tony Lakin (gynt o Sky TV). Yn wreiddiol, roeddent fwyaf enwog am eu hyrwyddiadau unigryw a doniol ar y BBC yn cefnogi tîm rygbi Cymru. Yna aethant ymlaen i ragori yn eu maes drwy gynhyrchu ffilmiau byr difyr ac ysbrydoledig ar gyfer nifer o sefydliadau mawr yn cynnwys Prifysgol Caergrawnt, Llywodraeth Cymru a'r NSPCC.

Gyda briff i greu rhywbeth a oedd yn unigryw, yn gofiadwy ac yn ddoniol, tra'n adlewyrchu talent Cymru yn y diwydiannau creadigol, trodd y ddau at Monty Python am ysbrydoliaeth. Mae'r ffilm fer yn cynnwys llu o enwogion o'r byd theatr.

Y digrifwr Rhod Gilbert yw'r cyflwynydd, ac mae'n cynnwys sêr y llwyfan a'r sgrin yn cynnwys Catherine Zeta Jones, Michael Sheen, Siân Phillips, Bryn Terfel, Griff Rhys Jones a Dame Edna Everage (Barry Humphries). Rhoddodd pob un ohonynt o'u hamser yn rhad ac am ddim i gefnogi amcanion elusennol y Ganolfan fel lle i bobl o bob oedran a chefndir fwynhau a chymryd rhan yn y celfyddydau.

Mae hefyd yn cynnwys y dyngarwr y Fonesig Vivien Duffield, sy'n gefnogwr brwd o'r Ganolfan a'r celfyddydau yn gyffredinol, yn ogystal â buddiolwyr uniongyrchol, yn cynnwys plant a phobl ifanc, sydd wedi cymryd rhan gyda'r Ganolfan yn lleol ac ymhellach i ffwrdd.

"Nid oes llawer o bobl yn sylweddoli bod Canolfan Mileniwm Cymru yn elusen gofrestredig. Yn wir, nid oes llawer o bobl yn sylweddoli bod angen i ganolfan gelfyddydau lwyddiannus ddal i godi arian er mwyn gallu cynnig mwy o weithgareddau am ddim yn ein cymunedau; gan ehangu gorwelion, a galluogi ein plant a'n pobl ifanc, na fyddai ganddynt fynediad i'r celfyddydau fel arall, i fwynhau amrywiaeth eang o brosiectau celfyddydau addysgol", meddai Mathew Milsom, Rheolwr Gyfarwyddwr y Ganolfan. "Gallwn newid bywydau, ac rydym yn gwneud hynny drwy'r llu o brosiectau gwych a gynhelir gennym", ychwanegodd.

Er enghraifft: Murmur y Ffwrnais gyda 200 o blant o bob cwr o Gymru yn perfformio ar ein llwyfan; Lord of the Flies, y cynhyrchiad dawns diweddar, a oedd yn cynnwys 24 o fechgyn, nad oedd y rhan fwyaf ohonynt erioed wedi dawnsio o'r blaen, ac Only Kids Aloud, ein corws i blant, sydd wedi perfformio yn Rwsia ac yn seremoni agoriadol Gemau Olympaidd Llundain 2012 ac eleni yn Ne Affrica. Dyma enwi dim ond tri o'r prosiectau niferus a gynhelir gan y Ganolfan bob blwyddyn, gan wella cyrhaeddiad addysgol, dyheadau a hunanhyder pobl ifanc drwy'r celfyddydau a diwylliant.

Mae'r Ganolfan yn annog ei dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol i ledaenu'r neges i bawb drwy rannu'r fideo gyda chymaint o bobl â phosibl, yn cynnwys ffrindiau, perthnasau a chydweithwyr ym mhob cwr o'r byd.

"Mae gennym gymaint i'w ddathlu yng Nghymru, ond yn aml rydym braidd yn amharod i ganu ein clodydd ein hunain, heblaw ar y cae rygbi wrth gwrs! Mae'r ffaith ein bod wedi cael ein hethol yn Drysor Cenedlaethol y bobl yn dangos bod pobl Cymru yn falch o'r Ganolfan, a hoffwn i bawb sydd wedi bod yn rhan ohoni dros ein deng mlynedd gyntaf, ni waeth ym mha ffordd, ddweud wrth y byd. Efallai mai gwlad fechan ydym ni, ond rydym yn sefyll ein tir yn y celfyddydau perfformio. Felly beth am ddathlu hynny", ychwanegodd Mathew Milsom.

John Rea, y cyfansoddwr sydd wedi ennill BAFTA, sydd wedi cyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer y fideo.
 
web site
:

e-mail:
Monday, November 3, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk