Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Dathlu’r Nadolig drwy lygaid Dylan Thomas     

Dathlu’r Nadolig drwy lygaid Dylan Thomas

Gan ddathlu rhyfeddod y Nadolig drwy lygaid Dylan Thomas, bydd A Child's Christmas in Wales yn dychwelyd i Gaerdydd o ddydd Mawrth 25 Tachwedd tan ddydd Sadwrn 29 Tachwedd.

Mae atgofion plentyndod Dylan Thomas o'r Nadolig wedi dod yn ffefryn ymhlith cenedlaethau o blant yng Nghymru a thu hwnt. Mae'r addasiad hwn, pen llanw blwyddyn gyfan o ddathlu ei fywyd a'i waith, yn ddarlun atgofus o flynyddoedd cynnar Dylan, sy'n defnyddio llawer o'i straeon byrion a’i ddarllediadau i gyfleu naws plentyndod hudolus yn yr eira. Yn cael ei berfformio gan gast o 10 actor/cerddor, mae'r cynhyrchiad hwn yn cyfleu rhyfeddod y Nadolig bron ganrif yn ôl drwy lygaid plentyn wrth i Dylan fyfyrio ar ei blentyndod yn 6 oed gan ofyn 'Wnaeth hi fwrw eira am ddeuddeg dydd a deuddeg nos go iawn?'

"Addasiad gwych o 'A Child's Christmas in Wales’. Gall oedolion a phlant ei fwynhau, a thrwy hiwmor a cherddoriaeth, mae'n cyflwyno diwylliant Cymru ar ei orau."
Hannah Ellis (Wyres Dylan Thomas)

Mae A Child's Christmas in Wales yn wledd o bortreadau syfrdanol Dylan Thomas, ei hiwmor, ei ddyngarwch a'i graffter o'r natur ddynol. Gyda pherfformiadau yn Aberdaugleddau, y Drenewydd, Caerfyrddin, Llandudno, Caerdydd, Aberystwyth, Aberhonddu a Bangor, bydd y sioe hon yn ddiweddglo addas i Wyl Dathlu 100 mlwyddiant Dylan Thomas.

Dechreuodd Michael Bogdanov ei yrfa drwy gynorthwyo Peter Brook yn yr RSC ar gynhyrchiad hanesyddol o A Midsummer Night's Dream ym 1970. Bu'n cyfarwyddo yn yr RSC yn gyson wedi hynny (gan gynnwys ennill Gwobr Olivier am ei gynhyrchiad ffeministaidd radical o Taming of the Shrew ym 1979) ac fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Theatr Genedlaethol Lloegr cyfarwyddodd 15 o gynyrchiadau (gan gynnwys y cynhyrchiad dadleuol o The Romans in Britainym 1980). Ym 1986 sefydlodd Cwmni Shakespeare Lloegr ar y cyd â Michael Pennington gan ennill Gwobr Olivier am WARS OF THE ROSES, cynhyrchiad a fu ar daith ryngwladol am bum mlynedd. Fe ddaeth yn Brif Weithredwr Deutsches Schauspielhaus Hamburg am bedair blynedd ac mae'n gweithio ledled Ewrop. Sefydlodd Gwmni Theatr Cymru yn 2003. Mae Michael hefyd yn trefnu ac yn llwyfannu’r DYLATHON, sef darlleniad 36 awr ddi-stop o waith Dylan Thomas yn Theatr Grand Abertawe ar achlysur Canmlwyddiant y bardd.



Comisiynwyd y gerddoriaeth a’r geiriau yn arbennig ar gyfer y cynhyrchiad hwn gan un o gyfansoddwyr caneuon gwerin amlycaf America, Jack Herrick, prif leisydd The Red Clay Ramblers a enillodd Wobr Tony ar Broadway am eu rhan yn Fool Moon. Mae eu cerddoriaeth hefyd wedi cael ei defnyddio yn ffilmiau Sam Shepherd a'r gyfres deledu Northern Exposure.

Mae'r cast yn cynnwys: Kathryn Dimery, Russell Gomer, Heledd Gwynn, Stephen Hickman, Mali Llywelyn, Terence Mortimer, Jak Poore, Dafydd Rhys Evans a Lauren Roberts.

Cyfarwyddwr - Michael Bogdanov. Dylunio - Sean Crowley. Coreograffi - Anthony Williams.
Dylunydd Goleuadau - Ceri James. Dylunydd Sain - Andy Collins.
Mae'r gwisgoedd yn seiliedig ar Ddyluniadau gwreiddiol gan Sian Jenkins, a wireddwyd gan Helen Rodgers.

Cefnogir A Child’s Christmas in Wales gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â Chyngor Celfyddydau Cymru a phartneriaid eraill sy'n cymryd rhan yng Ngwyl Dylan Thomas 100 2014.
 
web site
:

e-mail:
Friday, November 7, 2014back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk