|
Ysgolion Awen - hyfforddiant anturiaethus mewn celfyddydau awyr agored i ymarferwyr creadigol yng Nghymru. |

Dyma’ch cyfle i chwarae gyda thân yng Ngogledd Cymru i adrodd straeon newydd y tu mewn i un o gestyll hynaf y Canolbarth. . . neu i greu gorymdaith drawiadol a chyfranogol gyda cherddoriaeth stryd ac effeithiau arbennig yn Ne Cymru.Ysbrydolwch eich hunain. . . gwellwch eich gwybodaeth a’ch technegau. . . magwch eich sgiliau cydweithio. . . chwaraewch gydag ymarferwyr creadigol eraill mewn cyfres o gyrsiau preswyl, trylwyr. Dros 6 niwrnod, bydd y sefydliad celfyddydau awyr agored byd-enwog, Walk the Plank, yn rhannu ugain mlynedd o brofiad. Bydd Ysgolion Awen yn digwydd ledled Cymru rhwng y misoedd Mawrth a Mai 2015 ar gyfer ymarferwyr creadigol sydd eisiau magu sgiliau gwerthfawr, cael eu hysbrydoli ac ennill profiad sy’n rhoi cymorth iddyn nhw weithio yn y celfyddydau awyr agored neu yn gyhoeddus. Gydag arbenigwyr wrth y llyw, byddwch chi’n gweithio o fewn timoedd bach i ymchwilio ymarfer cyfoes a chreu gwaith awyr agored cyffrous sy’n barod i’w ddangos i gynulleidfaoedd byw ar ddiwedd pob cwrs. Mae Ar Waith, Ar Daith yn ddathliad awyr agored sy’n ymestyn o Ganolfan Mileniwm Cymru i ben draw’r wlad. Dewch ar siwrnai gyda ni i Fae Caerdydd ar gyfer diweddglo Dengmlwyddiant y Ganolfan ar 12 a 13 Medi 2015. Comisiynwyd y digwyddiad gan y Ganolfan ac mae wedi’i greu gan Walk the Plank gydag artistiaid o Gymru. Cefnogir Ysgolion Awen gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac mae’n rhan o Ar Waith Ar Daith. Mae pob cwrs yn cynnwys 3 diwrnod o hyfforddiant mewn sgiliau a thechnegau gyda hyfforddwyr profiadol a siaradwyr gwadd. Wedyn, mae 2 neu 3 diwrnod o hyfforddiant drwy gynhyrchu sy’n dod i ben gyda digwyddiadau cyhoeddus. Wrth dywys y cyfranogwyr drwy broses briffio fyw – o gynllunio sioe sy’n ymateb i’r dirwedd a’r cyd- destun i ddangos y gwaith yn gyhoeddus – dyma gyfle i weithio gyda’ch gilydd i greu perfformiad, gorymdaith neu osodiad anhygoel. Mae hyfforddiant Walk the Plank yn annog meddwl creadigol ac yn gweithio’n gyfrifol i rannu gwybodaeth dechnegol a rhoi pŵer i ymarferwyr creadigol a chynhyrchwyr y dyfodol sydd â diddordeb mewn datblygu eu gwaith i ymateb i’r holl gyffro a heriau sy’n dod gyda gofod cyhoeddus. Cost Mae’r pecyn hyfforddi (gwerth £1,000 y pen) ar gael i ymarferwyr Cymreig ac yng Nghymru am ddim ond £150 y cwrs; gyda llety (yn amrywio o gwrs i gwrs) a bwyd ar ben hynny, sydd hefyd tua £150 yr wythnos. Mae rhai bwrsariaethau ar gael – gofynnwch am fanylion wrth ymgeisio. Proses o ddewis Os ydych chi’n ymarferwr creadigol o Gymru, neu’n gweithio yng Nghymru, gydag o leiaf 2 mlynedd o waith proffesiynol i’ch enw, anfonwch CV a 250 gair sy’n amlinellu’r cwrs rydych chi’n ymgeisio amdano, eich rhesymau dros ymgeisio a rhestr o’ch sgiliau perthnasol at awentraining@walktheplank.co.uk erbyn 25 Ionawr 2015. 
Ysgol Awen 01 Celfyddydau Awyr Agored Tywyll. 21-22 Mawrth 2015. Caernarfon, Gogledd Cymru Tân, tân gwyllt, effeithiau arbennig; dyluniadau a cherfluniau tân; gwisgoedd a dyluniadau goleuedig; dylunio, creu a pherfformio gwaith gorymdeithiol. 
 Ysgol Awen 02 Celfyddydau Awyr Agored yn yr Amgylchedd. 27 Ebril – 3 Mai. Castell-y-Bere ger Tywyn, Canolbarth Cymru Chwedleua a chanu, siwrnai gartrefol, celf gosod a goleuant, gwaith ar leoliad penodol cefn gwlad; addurno safle; goleuo oddi ar y grid a foltedd isel. 
 Ysgol Awen 03 Celfyddydau Awyr Agored yn y Dref. 25 – 31 Mai 31. Casnewydd, De Cymru. Gorymdaith, addurno safle, perfformiad stryd, carnifal, gwisgoedd a baneri, bandiau stryd, pyro yn y diwrnod ac effeithiau arbennig. |
| web site: |
| e-mail: awentraining@walktheplank.co.uk |
| Wednesday, January 7, 2015 |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999


Dyma’ch cyfle i chwarae gyda thân yng Ngogledd Cymru i adrodd straeon newydd y tu mewn i un o gestyll hynaf y Canolbarth. . . neu i greu gorymdaith drawiadol a chyfranogol gyda cherddoriaeth stryd ac effeithiau arbennig yn Ne Cymru.