Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cwmni theatr o Aberystwyth yn lawnsio drama newydd gan ddarlithydd yn Adran y Gyfraitha Throseddeg     

Cwmni theatr o Aberystwyth yn lawnsio drama newydd gan ddarlithydd yn Adran y Gyfraitha Throseddeg
Y mae drama newydd o'r enw To Kill a Machine gan ddarlithydd o Brifysgol Aberystwyth, Dr Catrin Fflur Huws, wedi enill cefnogaeth fyd-eang drwy ymgyrch Kickstarter.

Codwyd £8,000 am y prosiect am Alan Turing drwy dorf-ariannu a rhoddion gan gefnogwyr o Seland Newydd, Yr Almaen a'r Unol Daleithiau, yn ogystal â chyfrifiadurwyr a chyfreithwyr yng Nghymru.


Y mae'r prosiect hefyd wedi derbyn dau grant prosiect gan Gyngor
Celfyddydau Cymru. Bydd y grant cyntaf yn cefnogi'r cynhyrchiad a thaith o amgylch Cymru, tra bo'r llall yn un o wobrau Cymru yng Nghaeredin, gydag ond 10 cwmni Cymreig wedi derbyn nawdd i gyflwyno'r gorau o waith dramatig Cymreig yn yr Wyl Gelfyddydau Ryngwladol.

Bydd y daith o amgylch Cymru yn cynnwys Mai 6ed, 7fed ac 8fed Arad Goch yn Aberystwyth, 9fed Mai Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu, 12fed May – Torch Theatre yn Aberdaugleddau, 13eg Mai – Sefydliad y Glowyr y Coed Duon, 15fed Mai – Canolfan Taliesin Abertawe , 21ain Mai – Y Miners yn Rhydaman, 22ain Mai yn Theatr Hafren yn Y Drenewydd. Bydd perfformiadau hefyd yn Llundain yn Theatr Arcola ar Fai 17eg ac yng Ngwyl Caeredin o'r 7fed nes y 31ain o Awst.

Y mae To Kill a Machine yn ddran unigryw a gwreiddiol sydd yn cynnig stori afaelgar a thrist am ddyn a oedd yn euog o fod yn arthylith, yn hoyw ac yn anfodlon i fyw bywyd o gelwydd a gafodd ei droi yn arwr, yn alltud ac yna'n arwr unwaith eto. Perfformiwyd y ddrama yn wreiddiol fel peilot yn 2012, yn ystod dathliadau canmlwyddiant penblwydd Turing, pan y'i perfformwyd fel rhan o Gaffi Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe.
Daeth y dathliadau canmlwyddiant a bywyd Alan Turing i sylw ehangach, yn enwedig wedi iddo gael ei esgusodi am ei drosedd, ond mae'r ffilm ddiweddar, lle mae Benedict Cumberbatch yn chwarae Turing wedi dod ag enw'r mathemategydd i sylw'r cyhoedd. Beirniadwyd y ffilm am beidio a bod yn ffeithiol gywir ar adegau am fywyd a gwaith Turing. Fodd bynnag, mae cyfrifiadurwyr wedi canmol To Kill a Machine, nid yn unig am sut mae'n adrodd hanes Turing, ond hefyd am sut mae wedi cyd-blethu gwaith Alan Turing i mewn i'r sgript.

Dwedodd Sandra Bendelow, cynhyrchydd To Kill a Machine “Roedden ni wsatad yn ymwybodol fod drama Catrin am Alan Turing yn arbennig, a chanddi'r potensial i fod yn yn rywbeth anhygoel. Mae'n wych ein bod ni wedi cael cefnogaeth gymaint o bobol sydd eisiau gweld y ddrama. Mae'n anodd i gael cefnogaeth drwy dorf-ariannu, ond roedd yn wych i weld gymaint o barch ac edmygedd sydd am Alan Turing. Roedd e'n syfrdanol ac yn gryn fraint. Y mae Alan Turing yn arwr i gymaint o bobl am gymaint o resymau, ac rydym yn edrych ymlaen yn arw at berfformio hanes Alan Turing fel y dylsai gael ei glywed.”

Gellir archebu tocynnau ar gyfer Arad Goch ar gyfer 6ed, 7fed ac 8fed Mai -
Arad Goch www.aradgoch.com 01970 617998
 
web site
:

e-mail:
Tuesday, April 14, 2015back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk