Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Orbit Theatre yn perfformio The Wizard of Oz yn y Theatre Newydd     

Orbit Theatre yn perfformio The Wizard of Oz yn y Theatre Newydd Mae’n bryd mynd am dro gyda Dorothy a’i Chyfeillion

Bydd prif gwmni amatur Cymru, Orbit Theatr, ar daith i’r Ddinas Emrallt yn y Wizard of Oz o ddydd Mercher 27 tan ddydd Sul 31 Mai.

Bydd y cymeriadau enwog i gyd yn rhan o’r addasiad llwyfan hwn – Dorothy (a Toto), Y Bwgan Brain, y Dyn Tun a’r Llew Llwfr – wrth iddynt deithio ar hyd yr heol frics felen i chwilio am y Wizard of Oz. A fydd y Wrach Ddrwg ddim yn bell y tu ôl iddynt chwaith!

Daw’r gerddoriaeth a geiriau’r caneuon o sgôr ffilm MGM, gyda'r clasuron i gyd yn rhan o’r cynhyrchiad – fel Over the Rainbow, We’re Off to See the Wizard a Ding Dong the Witch is Dead Mae stori L. Frank Baum wedi swyno cenedlaethau o bobl ac mae’n ddelfrydol ar gyfer y teulu dros hanner tymor.

Mae Orbit Theatre yn perfformio The Wizard of Oz yn y Theatr Newydd ddydd Mercher 27 tan ddydd Sul 31 Mai. Mae tocynnau ar werth nawr o £9.50 - £21.00. I gael rhagor o fanylion am y sioe neu i archebu tocynnau* ewch i www.newtheatrecardiff.co.uk neu rhowch alwad i’r Swyddfa Docynnau ar (029) 2087 8889.

Codir Ffi Gwasanaeth Tocynnau o £2.95 ar archebion (ceir eithriadau).

The Wizard of Oz Orbit Theatre
Y Theatr Newydd, Caerdydd
Mercher 27 – Sul 31 May
Mercher - Sadwrn 2.00pm a 7.00pm; Sul 2.00pm
Tocynnau: £9.50 - £21.00
Swyddfa Docynnau: 029 2087 8889
Archebu ar-lein: www.newtheatrecardiff.co.uk
www.newtheatrecardiff.co.uk  
web site
:

e-mail:
Tuesday, April 21, 2015back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk