Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Unwaith, unwaith     

Mae Bara Caws yn falch o gael cyhoeddi fod y seren ryngwladol Rhys Ifans yn chwarae rhan bwysig yn eu cynhyrchiad nesaf "Unwaith, Unwaith.." gan Sian Summers.

Mewn datblygiad blaengar fe fydd yr actor, sy'n ymddangos mewn drama lwyfan i Gwmni Theatr Cymreig proffesiynol am y tro cyntaf, yn rhyngweithio gyda'r actorion eraill ar sgrîn yn rhan "Y Storiwr" yn y sioe deuluol hwyliog yma sy'n ail weithiad o hen chwedl "Y Pibydd Brith".

Mae pawb isio bod yn arwr mewn rhyw stori fawr, a dydy'r Pibydd druan ddim gwahanol, mae'n cymeryd dipyn o boen, dipyn o chwerthin a lot o gariad i ddangos iddo mai bod yn arwr yn dy stori fach dy hun 'di'r peth pwysicaf - a mi fedrwn ni gyd wneud hynny.

Fe fydd yn gyfle anghyffredin i Llyr Ifans sy'n chwarae rhan "Y Pibydd" i ymddangos ar lwyfan gyda'i frawd ac mae'n edrych ymlaen yn fawr i'r profiad. Yn canu a dawnsio eu ffordd drwy'r sioe fywiog yma hefyd fydd Dyfrig Wyn Evans, Leusa Mererid, Dewi Rhys a Llinos Roberts.

Bydd y cynhyrchiad arbennig yma ar daith o CHWEFROR 4ydd hyd at y laf o FAWRTH, 2003.

Am fwy o fanylion ffoniwch Linda 01286 676335
Bara Caws  
web site
:
Linda Brown
e-mail: tbaracaws@btconnect.com
Friday, December 13, 2002back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk