Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Theatr Genedlaethol Cymru: Cyhoeddi cast Nansi     

 Theatr Genedlaethol Cymru: Cyhoeddi cast Nansi Drama newydd gan Angharad Price sy’n codi’r llen – i sain y delyn – ar gymeriad hudolus Nansi Richards

Mae Theatr Genedlaethol Cymru yn falch o gyhoeddi cast Nansi, prif gynhyrchiad y cwmni yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Yn ymuno â Theatr Genedlaethol Cymru am y tro cyntaf bydd Melangell Dolma (Nansi) a Gwyn Vaughan Jones, ac fe fydd Siw Hughes a Carwyn Jones yn dychwelyd i weithio gyda’r cwmni unwaith eto. Angharad Price sydd wedi ysgrifennu’r sgript newydd, yn seiliedig ar syniad gwreiddiol gan Sarah Bickerton, a Sarah Bickerton fydd yn cyfarwyddo.

Mae’r ddrama’n rhoi inni flas o’r newydd ar fywyd lliwgar y delynores o Faldwyn, Nansi Richards. Carl Davies fydd yn cynllunio’r set gyda Dyfan Jones yn Gyfansoddwr ac Chynllunydd Sain.

Meddai’r Cyfarwyddwr, Sarah Bickerton, sy’n hannu o Faldwyn yn wreiddiol, ac sy’n perthyn i Nansi Richards;

“Rydw i’n hapus iawn bod Theatr Genedlaethol Cymru yn llwyfannu drama am fywyd Nansi Richards yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Yn wreiddiol o’r ardal ac yn perthyn i Nansi, mae ei bywyd rhyfeddol wedi bod yn chwilfrydedd mawr i mi ers yn ferch fach. Ei dawn arbennig, ei chymeriad unigryw, a’r straeon sy’n bodoli amdani – mae ’na ryw ryfeddod yma. Ac mae Angharad Price wedi creu sgript sy’n dod a stori’r Nansi ifanc yn fyw – mae ’na hwyl ac antur ond hefyd golwg newydd a’r frwydr Nansi, y ferch, i fod yn artist. Rydym yn edrych ymlaen nawr i ddechrau’r ymarferion!”

Bydd cynhyrchiad Nansi i’w weld yn y Stiwt, Llanfair Caereinion nos Lun (3ydd o Awst) tan nos Wener (7fed o Awst) yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol. Bydd bws rhad ac am ddim ar gael o’r maes. Mae tocynnau ar werth trwy’r Eisteddfod Genedlaethol – www.eisteddfod.org.uk / 0845 4090 900
 
web site
:

e-mail:
Wednesday, June 17, 2015back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk