|
THEATR BARA CAWS yn cyflwyno D I F A gan Dewi Wyn Williams
|
Drama ingol, ddoniol a phersonol, sy’n cynnig cyfle i grio a chwerthin crio, yn aml ar yr un pryd. Yn ôl y dramodydd, “Y ffordd orau i galon ddwys yw chwerthin trwy’r bol”, ac mae ‘DIFA’ yn mynd â ni o’r dwys i’r doniol ar helter-sgelter o emosiynau.
Mae’r ddrama’n digwydd ym mhen Oswald Pritchard, cyfieithydd, wrth iddo ymylu ar glogwyn gwallgofrwydd. Mae Os wedi colli ei waith, ac yn ofni colli cariad ei wraig, Mona. Cawn fynd yn ei gwmni i weld ei gyn-fos Peter a’r seiciatrydd Dr King, a chael cipolwg ar ei fywyd priodasol anghonfensiynol, wrth iddo bendilio o un emosiwn i’r llall, gan gynnig sylwadau bachog, difyr am y byd a’i bethau, a hynny mewn iaith rywiog, gref.
Mae hon yn ddrama dwy act, gydag egwyl yn y canol.
Yr actorion: Bethan Dwyfor, Rhodri Evan, Catrin Mara, Llion Williams
Cyfarwyddwr: Betsan Llwyd
Addas i rai 16+ Defnyddir iaith gref
|
web site: |
e-mail: |
Monday, October 26, 2015 |
|
|
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999