Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

Cyhoeddi’r rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Theatr Cymru 2016     

Cyhoeddi’r rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Theatr Cymru 2016

Yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, nos Iau, Ionawr 14, 2016 cyhoeddwyd y rhestrau byrion ar gyfer Gwobrau Theatr Cymru 2016.
Mae’r gwobrau yma’n cydnabod rhagoriaeth perfformiadau theatr, dawns ac opera a grëwyd ac a gyflwynwyd yng Nghymru rhwng Rhagfyr 2014 a Tachwedd 2015. Cafodd yr enwebiadau hyn eu gwneud gan feirniaid drwy Gymru gyfan.
Meddai cyfarwyddwr Gwobrau Theatr Cymru, Mike Smith, “Eleni cawsom enwebiadau gan 34 o feirniaid ar draws amrywiaeth o genres a llwyfannau cyfryngol. Derbyniwyd cyfanswm o 593 o enwebiadau unigol, gan gynnwys 334 perfformiwr, staff creadigol (cyfarwyddwyr, technegwyr, cynllunwyr a dramodwyr), a sioeau, yn Saesneg ac yn Gymraeg.


“Yr hyn sy’n amlwg eleni, nid yn unig o edrych ar y rhestrau byrion, ond o ddarllen pob un o’r 593 enwebiad a gafwyd, yw’r effaith anferth mae cwmnïau a lleoliadau llai, a thalent newydd wedi ei gael ar 2015. Gwelwyd sioeau a pherfformiadau gwych gan rai o’n cwmnïau a pherfformwyr amlycaf, ond ‘roedd yn amlwg mai rhai o’r cynyrchiadau mwyaf poblogaidd ym mysg y beirniaid oedd y rheiny gan newydd-ddyfodiaid, a sioeau agos-atoch ar gyllidebau llai.

“Wrth gwrdd i drafod yr enwebiadau a gafwyd o bob cwr o Gymru, bu i’r beirniaid ddatgan eu bod yn bryderus nad yw rhai genres o ran y celfyddydau perfformio, na rhai lleoliadau yng Nghymru, er gwaethaf gwaith adolygwyr Gwobrau Theatr Cymru, yn cael sylw digonol. Er bod gennym adolygwyr ac enwebwyr o bob genres ac o bob rhan o’r wlad, byddwn yn gweithio ymhellach gyda lleoliadau a ffurfiau celfyddydol yn 2016 i geisio cefnogi’r gwaith o adolygu, er lles y celfyddydau’n gyffredinol.”
Bydd enillwyr pob categori’n cael eu cyhoeddi mewn Sioe Wobrwyo arbennig yn Sherman Cymru, Caerdydd ar nos Sadwrn Ionawr 30.


Ni fyddai’n bosib cynnal y Gwobrau hyn heblaw am waith caled y beirniaid sy’n asesu’r holl enwebiadau’n ofalus er mwyn dewis y rhestrau byrion ac yna’r enillwyr, yn ogystal â nawdd hael unigolion, sefydliadau a lleoliadau celfyddydol.


Mae’r nawdd yma hefyd yn galluogi Cronfa Beirniaid Cymru i gynnig cefnogaeth ariannol i feirniaid llawrydd a beirniaid ifanc i fynychu perfformiadau ledled y wlad. Mae Gwobrau Theatr Cymru a Cronfa Beirniaid Cymru’n cael eu rheoli gan Arts Awards Ltd/Cyf.

Cyflwynir y noson gan Nicola Heywood Thomas ac Arfon Haines Davies, ynghyd â pherfformiadau gan ddawnswyr Sweetshop Revolution, y soprano Gymraeg, Angharad Morgan, a myfyrwyr canu o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Gellir prynu nifer cyfyngedig o docynnau ar gyfer y Noson Wobrwyo o Ganolfan Chapter. Am docynnau ewch i: www.shermancymru.co.uk
 
web site
:

e-mail:
Friday, January 15, 2016back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk