Theatre in Wales

The latest theatre, dance and performance news

‘Drwg!’ gan Angela Roberts     

‘Drwg!’  gan Angela Roberts Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd Bara Caws yn teithio cynhyrchiad yn arbennig i blant oed cynradd a’u teuluoedd, Drwg!, gan agor yng Nghanolfan Pontio, Bangor ar ddydd Sadwrn 30 o Ionawr. Yna bydd y sioe bypedau hudolus yma, gan Angela Roberts, yn teithio o amgylch y Gogledd tan 26 o Chwefror. (Wele’r atodiad am ddyddiadau a chanolfannau’r perfformiadau).

Mae Angie yn awdures blant brofiadol (y hi yw awdur ‘Anturiaethau Jini Mê’) a bu ganddi ddiddordeb erioed ym mhŵer pypedau fel cyfrwng llwyfan. Meddai Angie: “‘Rwyf wrth fy modd yn defnyddio chwedl sy’n rhan o’n hetifeddiaeth Gymreig a’i throi’n berthnasol i blant heddiw drwy ddefnyddio pypedau ac actorion, gan gyflwyno sioe llawn lliw, hwyl a chân.

Efa Dyfan, merch Angie sy’n gyfrifol am fodelu’r holl bypedau, a’i brawd Cai, sy’n gynllunydd theatr a ffilm yn Llundain, sydd wedi dylunio’r set ar sail model o theatr degan liwgar Fictorianaidd.

Mae’r sioe, sy’n seiliedig ar chwedl Rhita Gawr, yn sioe liwgar a deniadol dros ben, ac yn siŵr o apelio at bawb. Bydd yn cynnwys pypedau ffon a chysgodion, actorion, cerddoriaeth, caneuon, bocs mawr o eira, gafr sy’n perfformio, carnifal canol-nos – a cheiliog!

A phwy oedd Rhita meddech chi?  Wel, un drwg oedd Rhita, wrth ei fodd yn codi ofn ar bawb a phopeth, ac yn bwlio plant llai yn ddidrugaredd.  Dewch i helpu Betsi Brwsh a’i chyfeillion i ddysgu Rhita sut i fihafio’n iawn…

Cyflwynir y sioeau yn Pontio gyda chydweithrediad y ganolfan gelfyddydol newydd ar y 30 o Ionawr, a bydd gweithdai gwneud pyped yn cael eu cynnal wedi’r ddwy sioe. Yn ôl Angie, mae medru cynnal gweithdai o’r fath yn annog plant i greu eu pypedau eu hunain, ac efallai’n hybu’r broses greadigol drwy eu hysgogi i lunio eu straeon eu hunain adref. Bydd gweithdai hefyd yn cael eu cynnal ar ôl y perfformiadau yn Neuadd Buddug, Y Bala.










 
web site
:

e-mail:
Thursday, January 28, 2016back

 

 

Older news stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999

 

Privacy Policy | Contact Us | ©2013 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk